Darlledwr, awdur a gweinidog o Gymro oedd y Parchedig Ddr R.
Alun Evans (7 Medi 1936 – 20 Awst 2023).
R. Alun Evans | |
---|---|
Ganwyd | 7 Medi 1936 Llanbryn-mair |
Bu farw | 20 Awst 2023 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | darlledwr, gweinidog yr Efengyl |
Plant | Betsan Powys, Rhys Powys |
Magwyd Robert Alun Evans yn Llanbrynmair yn fab i'r Parchedig Robert Evans, a derbyniodd ei addysg yn Nyffryn Dyfi. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Fe'i hordeiniwyd yn weinidog yn Seion Llandysul, cyn troi at fyd darlledu. Ymunodd ag Adran Grefydd BBC Cymru yn 1964. Cafodd yrfa amrywiol gyda'r BBC - roedd yn cyflwyno'r rhaglen gylchgrawn dyddiol Heddiw o 1969–1979, ac yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn sylwebu ar seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol.
Ef oedd sylwebydd pêl-droed cyntaf y gorfforaeth yn y Gymraeg a torrodd dir newydd trwy sylwebu yn Gymraeg ar gêm ragbrofol Cwpan y Byd rhwng Cymru a'r Alban ar gae Anfield, Lerpwl yn 1977.
Wedi ymddeol yn 1996, bu'n astudio am radd Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, ac enillodd ei radd PhD am ei waith ar 'Dechrau a datblygu darlledu yng Ngogledd Cymru' yn 1999.
Ers y 1970au bu'n aelod o gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol a bu'n Gadeirydd ar y corff hwnnw o 1999–2001 a chafodd ei ethol yn Llywydd y Llys o 2002–2005. Penodwyd yn Gadeirydd cyntaf Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod, ac yn 2007, fe'i hanrhydeddwyd yn Gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ar ôl ymddeol o fyd darlledu, dychwelodd i'r weinidogaeth, a bu'n gwasanaethu gyda'r Annibynwyr yng Nghaerffili a Gwaelod-y-garth nes ei ymddeoliad ddiwedd 2014. Bu hefyd yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg rhwng 2014 a 2018.
Roedd yn briod a Rhiannon ac fe gawsant ddau o blant, y cyfarwyddwr Rhys Powys a'r ddarlledwraig Betsan Powys.
Bu farw ar brynhawn sydd Sul, 20 Awst 2023 yn ei gartref ac yng ngofal ei deulu. Talwyd nifer o deyrngedau iddo. Cafwyd datganiad gan yr Eisteddfod Genedlaethol: "Roedd R Alun Evans yn fodern ei weledigaeth, ac roedd ein sgyrsiau wastad yn gyfle i gamu'n ôl ac ystyried ei syniadau a'i farn."
Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Roedd R Alun Evans yn ddarlledwr crefftus a chraff; yn gawr ac yn arloeswr ymhlith darlledwyr Cymru dros sawl degawd a chanddo'r gallu unigryw hwnnw i greu agosatrwydd arbennig gyda'i gynulleidfa. Fe dorrodd dir newydd mewn sawl maes yn y byd darlledu."
Soniodd ei ffrind, yr Athro Derec Llwyd Morgan am ei ddylanwad mewn sawl maes arall, megis golygu ac ysgrifennu llyfrau a'i wahanol swyddogaethau gyda'r Eisteddfod Genedlaethol. "Cyn i'r Orsedd rai blynyddoedd yn ôl gymryd at seremoni'r Fedal Ryddiaith, Alun oedd yn ei llywio hi bron bob blwyddyn, fel y llywiai'r Daniel Owen, a mi roedd o'n gwneud popeth yn raenus, gynhesol."
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article R. Alun Evans, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.