,
Pibydd cambig Calidris ferruginea | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Scolopacidae |
Genws: | Calidris[*] |
Rhywogaeth: | Calidris ferruginea |
Enw deuenwol | |
Calidris ferruginea | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Pibydd cambig (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: pibyddion cambig) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Calidris ferruginea; yr enw Saesneg arno yw Curlew sandpiper. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru. Nid yw'n nythu yng Nghymru, ond gwelir niferoedd o gwmpas y glannau yn yr hydref ambell flwyddyn. Ceir ambell unigolyn yn y gaeaf nei'r gwanwyn.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. ferruginea, sef enw'r rhywogaeth. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia.
Mae'r Pibydd Cambig yn nythu yn yr Arctic, yng ngogledd Siberia. Mae'n aderyn mudol, ac yn y gaeaf maent yn symud tua'r de, cyn belled ag Affrica, de-ddwyrain Asia ac Awstralia. Yn y gaeaf maent yn hel at ei gilydd yn heidiau, weithiau gyda rhydyddion eraill. Fe'i ceir yn aml gyda Pibydd y Mawn, a gall fod yn anodd eu gwahaniaethu tu allan i'r tymor nythu. Mae'r Pibydd Cambig ychydig yn fwy, 19.5–21 cm o hyd, ac mae'r pig yn hirach ac yn troi at i lawr. Yn y tymor nythu, mae ganddo gefn llwyd a bol coch.
Mae'r pibydd cambig yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Gïach Affrica | Gallinago nigripennis | |
Gïach Asia | Limnodromus semipalmatus | |
Gïach Japan | Gallinago hardwickii | |
Gïach Madagasgar | Gallinago macrodactyla | |
Gïach Magellan | Gallinago paraguaiae | |
Gïach brongoch | Limnodromus griseus | |
Gïach cawraidd | Gallinago undulata | |
Gïach coed | Gallinago nemoricola | |
Gïach gylfinhir | Limnodromus scolopaceus | |
Gïach mynydd y De | Gallinago jamesoni | |
Gïach mynydd y Gogledd | Gallinago stricklandii | |
Gïach rhesog | Gallinago imperialis | |
Gïach unig | Gallinago solitaria | |
Gïach y Paramo | Gallinago nobilis |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pibydd cambig, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.