Fframwaith esgyrnog neu gartilagaidd pen y fertebratau ydy penglog, a hwnnw'n rhoi ffurf ac amddiffyniad i'r pen.
Yn ogystal ag amddiffyn yr ymennydd yn y pen rhag niwed mae siâp y benglog yn pennu pellter y llygaid oddi wrth eu gilydd ac yn lleoli'r clustiau yn y fath fodd fel y gall y clyw farnu cyfeiriad a phellter sŵn.
Enghraifft o'r canlynol | israniad organeb, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | structure with developmental contribution from neural crest, endid anatomegol arbennig, subdivision of skeletal system |
Rhan o | axial skeleton |
Cysylltir gyda | cervical spine |
Yn cynnwys | craniwm, mandibl dynol, niwrocraniwm, facial skeleton, calvaria, base of skull, parietal bone |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae dwy ran iddi sef y creuan (craniwm) ac asgwrn yr ên (genogl, mandibl). Creuanogion yw'r cordogion hynny sydd â chreuan ac fe'i defnyddir fel cyfystyr am ‘fertebratau’ mewn rhai trefnau dosbarthu. Ymhellach isrannir y creuan yn badell yr ymennydd (niwrocraniwm) ac yn sgerbwd yr wyneb (fiscerocraniwm) sy'n cynnwys cwpanau esgyrnog yr organau synhwyro.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Penglog, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.