Aelod o'r genws Australopithecus (o'r is-lwyth Australopithecine) a fu'n byw ar y Ddaear ac sydd bellach wedi'i ddifodi yw Australopithecus africanus.
Dyma'r hominin cyntaf i esblygu o'r epa ac mae'n perthyn yn agos iawn i'r Australopithecus afarensis. Fe'i dosbarthwyd i'r tacson hwn yn 924. Yn ddiweddar, yn dilyn ymchwil gan Paleoanthropolegwyr ac archaeolegwyr dyddiwyd y ffosiliau i rhwng 3.3 a 2.1 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP), h.y. yn ystod yr epoc Plïosen hwyr a chychwyn y Pleistosen.
Enghraifft o'r canlynol | ffosil (tacson) |
---|---|
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Australopithecus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Australopithecus africanus Amrediad amseryddol: Plïosen | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primatiaid |
Is-urdd: | Haplorhini |
Teulu: | Hominidae |
Llwyth: | Hominini |
Genws: | † Australopithecus |
Rhywogaeth: | africanus |
Cred nifer o baleoanthropolegwyr fod A. africanus yn perthyn yn uniongyrchol i fodau dynol modern. Dim ond mewn pedwar lleoliad yn ne Affrica y cafwyd hyd i esgyrn yr A. africanus, ac mae'r darganfyddiadau hyn i gyd yn awgrymu ei fod yn rhywogaeth tal a main. Y lleoliadau hyn yw: Taung (1924), Sterkfontein (1935), Makapansgat (1948) ac Ogof Gladysvale (1992).
Canfyddwyd y ffosil hwn yn 1924 gan yr Athro Raymond Dart mewn chwarel galch yn Taung ger Kimberley yn Ne Affrica. Y ffosil mwyaf nodedig oedd y penglog hwn a oedd yn gyfuniad o nodweddion epa a dyn. Roedd hi'n amlwg o siap yr esgyrn fod y rhywogaeth yma'n teithio ar ddwy goes. Fe'i bedyddiwyd gan Dart yn Australopithecus africanus ("epa de Affrica"); Rhoddwyd iddo'r llysenw "Y Plentyn Taung".
Dyma'r tro cyntaf i'r gair 'epa' (-pithecus) gael ei gysylltu gyda hominin mewn astudiaeth (a chyhoeddiad) gwyddonol, pwysig. Roedd hyn, felly, yn ddatganiad fod bod dynol wedi tarddu o epa. Oherwydd rhagfarn yr anthropolegydd Seisnig Syr Arthur Keith, fodd bynnag, a gredodd mai epa ydoedd ac mai yn Ewrop y byddai'r "ddolen goll" yn cael ei darganfod, byddai 30 mlynedd wedi'i dreulio cyn i wyddoniaeth dderbyn mai'r Athro Raymond Dart oedd yn gywir.
Cytunai'r Paleoanthropolegydd Robert Broom gyda Dart, fod y Plentyn Taung yn un o hynafiaid bod dynol. Gweithiai Broom o Amgueddfa Transvaal, Pretoria yn Ne Affrica. Yn 1936, yng nghrobil ogofâu Sterkfontein cafwyd hyd i'r oedolyn cyntaf o'r is-lwyth australopithecine, darganfyddiad a oedd yn cadarnhau honiad Broom, i raddau helaeth. Amcangyfrifodd Broom fod gwactod ymennydd yr oedolyn hwn yn 485 cc (canfuwyd y penglog gan G. W. Barlow) a galwyd yr esgyrn hyn yn Plesianthropus transvaalensis ("Bron-yn-ddynol, o Dransvaal"). Yn 1947, darganfuwyd esgyrn eraill hynod o debyg, gerllaw, esgyrn benyw yn ei chanol oed, a bedyddiwyd hithau hefyd yn Plesianthropus transvaalensis. Llysenw'r esgyrn hyn oedd "Mrs. Ples", er fod y penglog, yn y 2010au wedi'i gadarnhau i fod yn benglog dyn ifanc.
Yn ddiweddarach cadarnhawyd mai Australopithecus africanus oedd y ddau ddarganfyddiad, a newidiwyd yr enwau. Maint gwactod penglog Mrs Ples hithau yw 485 cc, a sylweddolwyd fod y gallu i gerdded ar ddwy goes wedi datblygu cyn i'r ymennydd ddatblygu. Anghytunai Athro Raymond Dart gyda hyn gan fynnu nad oedd y fath beth yn bosib.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Australopithecus africanus, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.