Hominid a fu'n byw ar y Ddaear oedd Australopithecus afarensis (Lladin: Epa'r De o Afar), Trigodd rhwng 3.9 a 2.9 miliwn o flynyddoedd yn ôl yng Ngorllewin Affrica.
Roedd yn hominid byr a thenau ei faint, yn eitha tebyg i Australopithecus africanus. Credir ei fod yn perthyn yn agos i'r genws Homo, sy'n cynnwys y bod dynol modern Homo sapiens naill ai'n uniongyrchol neu drwy hynafiad sydd eto i'w ganfod. Dyma berthynas agosaf Homo sapiens. Mae 'Afar' yn derm sy'n deillio o bobl ac iaith, sy'n trigo ar 'Gorn Affrica', yn Ethiopia, ac ystyr 'Afar' yw 'Pobl Ddewr'.
Enghraifft o'r canlynol | ffosil (tacson) |
---|---|
Math | early human migrations |
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Australopithecus |
Dechreuwyd | Mileniwm 3900. CC |
Daeth i ben | Mileniwm 2900. CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Australopithecus afarensis Amrediad amseryddol: Pliosen, 3.9–2.9 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Adluniad o "Lucy" yn Museo Nacional de Antropología, Dinas Mecsico | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Teulu: | Hominidae |
Is-deulu: | Homininae |
Genws: | Australopithecus |
Rhywogaeth: | A. afarensis |
Enw deuenwol | |
Australopithecus afarensis Donald Johanson a Timothy White, 1978 |
Y ffosil enwocaf i'w ddarganfod yw rhan o ysgerbwd a elwir yn Lucy a drigodd 3.2 miliwn o flynyddoedd CP yn y wlad a elwir heddiw yn Ethiopia. Fe'i canfyddwyd gan Donald Johanson a'i gydweithwyr a fedyddiodd y sgerbwd yn 'Lucy' gan fod yr archaeolegwyr ar y pryd yn gwrando'n ddi-baid ar gân o'r un enw gan y Beatles, sef Lucy in the Sky with Diamonds.
O'i gymharu gydag epaod modern a'r rhai sydd wedi darfod, mae gan A. afarensis ddannedd llai. Mae ganddo hefyd ymennydd llai: tuag 380–430 cm3 a gên sy'n ymthio allan, ac ymlaen.
Ceir cryn ddadlau ai creadur deudroed yn unig oedd, ynteu a oedd ar adegau'n goedrigol (arboreal). Mae esgyrn y dwylo, y traed, yr ysgwyddau'n awgrymu ei fod am ran helaeth o'r dydd ar ei draed, yn debyg iawn i fodau dynol modern. Mae bysedd y dwylo a'r traed, fodd bynnag, yn grwm, er mwyn bachu brigau a changhennau, a chred rhai ei fod o bosib yn parhau i fyw yn y coed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Australopithecus afarensis, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.