Y Pencampwriaethau, Wimbledon

Twrnamaint tenis hynaf y byd a ystyrir yn aml fel y gystadleuaeth denis uchaf ei fri yw Pencampwriaethau, Wimbledon neu Wimbledon.

Fe'i gynhelir yng Nglwb All England ym maestref Wimbledon, Llundain, ers 1877. Wimbledon yw'r hynaf o bedwar twrnamaint tenis y Gamp Lawn, a'r unig un a barheir i chwarae ar gyrtiau gwair.

Y Pencampwriaethau, Wimbledon
Y Pencampwriaethau, Wimbledon
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathtwrnamaint tenis Edit this on Wikidata
Rhan oY Gamp Lawn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1877 Edit this on Wikidata
LleoliadClwb Tenis Lawnt a Croce Lloegr Cyfan Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthWimbledon Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.wimbledon.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Pencampwriaethau, Wimbledon
Logo Wimbledon
Y Pencampwriaethau, Wimbledon
Cyn bencampwr y byd Steffi Graf, o'r Almaen

Cynhelir y twrnamaint bob blwyddyn am 14 diwrnod o ddiwedd Mehefin i gychwyn Gorffennaf, gyda rownd derfynol y senglau dynion, a chwaraeir ar Ddydd Sul, fel uchafbwynt y cystadlaethau. Chwaraeir pump prif gystadleuaeth yn y twrnamaint, yn ogystal â phedair cystadleuaeth iau a phedair cystadleuaeth wahoddiad.

Wimbledon yw'r drydedd twrnamaint yn nhymor blynyddol y Gamp Lawn; rhagflaenir gan Bencampwriaeth Agored Awstralia, ar gyrtiau caled, a Phencampwriaeth Agored Ffrainc, ar gyrtiau clai. Fe'i olynir gan Bencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau, ar gyrtiau caled. Mae Pencampwriaethau Clwb y Frenhines, a gynhelir ar gyrtiau gwair yn Llundain, hefyd yn dwrnamaint poblogaidd sy'n rhagflaenu Wimbledon.

Mae traddodiadau Wimbledon yn cynnwys bwyta mefus a hufen, nawddogaeth frenhinol, côd gwisg llym ar gyfer cystadleuwyr, a bechgyn a merched y bêl. Traddodiad arall sydd ddim mor boblogaidd yw galwadau "rain stops play" lle bo glaw yn rhwystro chwarae ac o ganlyniad mae gornestau yn cymryd mwy o amser neu'n rhedeg mewn i amser gornestau eraill; adeiladwyd tô sy'n tynnu'n ôl ar y Cwrt Canolog er mwyn delio â'r broblem hyn yn 2009.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

LlundainTenisWimbledon, LlundainY Gamp Lawn (tenis)

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

LlyffantHwlfforddTîm pêl-droed cenedlaethol CymruLlywelyn ap GruffuddDiana, Tywysoges CymruJapanegRihannaConwy (tref)Funny PeopleY Brenin ArthurTîm rygbi'r undeb cenedlaethol FfraincSwydd EfrogMeddMordenAnggunPanda MawrAwstraliaLlanfair-ym-MualltIdi AminCERNManchester City F.C.783MancheRəşid BehbudovPatrôl PawennauYr EidalZ (ffilm)StromnessYr wyddor GymraegTeilwng yw'r OenPidyn-y-gog AmericanaiddNewcastle upon TyneAmwythigJapanBangaloreDoler yr Unol DaleithiauYr Henfyd177130 St Mary AxeTatum, New MexicoGwyddoniasTrawsryweddHoratio NelsonDinasyddiaeth yr Undeb EwropeaiddRhestr mathau o ddawnsMelatoninTucumcari, New MexicoYmosodiadau 11 Medi 2001Rheonllys mawr BrasilThe Disappointments RoomKilimanjaroMarion BartoliDaearyddiaethCaerwrangonLlygoden (cyfrifiaduro)Sleim AmmarBe.AngeledFfawt San AndreasCameraModern FamilyPensaerniaeth dataAbacwsShe Learned About SailorsKrakówBrasilIddewon AshcenasiCasinoS.S. LazioJess DaviesZonia Bowen🡆 More