Cystadleuaeth tenis flynyddol yw Pencampwriaeth Agored Awstralia.
Cynhelir ym mhyfethnos olaf mis Ionawr, ac felly hwn yw'r cyntaf o dwrnameintiau'r Gamp Lawn yn y calendr tenis. Chwaraeir ar gyrtiau caled yn y Ganolfan Tenis Genedlaethol ym Mharc Melbourne, Melbourne, Awstralia. Cynhelir pencampwriaethau senglau dynion a menywod, parau dynion, menywod a chymysg, cystadlaethau i chwaraewyr ifainc a chwaraewyr mewn cadair olwyn, a gornestau cyfeillgar.
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon |
---|---|
Math | twrnamaint tenis |
Rhan o | Y Gamp Lawn |
Dechrau/Sefydlu | 1905 |
Lleoliad | Melbourne Park |
Yn cynnwys | AO Radio, Action Audio |
Gwladwriaeth | Awstralia |
Gwefan | https://ausopen.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd y dwrnamaint ar gyfer dynion gan Gymdeithas Tenis Lawnt Awstralasia (yn hwyrach, Awstralia) ym 1905. Cynhaliwyd y gystadleuaeth gyntaf i fenywod ym 1922. Hyd 1987, symudodd y maes chwarae rhwng Melbourne, Sydney, Brisbane, ac Adelaide, a chwaraeid ar gyrtiau gwair. Penderfynwyd i gynnal y pencampwriaethau yn barhaol ym Mharc Flinders (a ailenwyd yn Barc Melbourne ym 1996) o 1988 ymlaen. O 1988 hyd 2007 chwaraeid ar gyrtiau gwyrdd "Rebound Ace", ac ers 2008 defnyddir cyrtiau glas "Plexicushion". Arena Rod Laver, Arena Hisene ac Arena Margaret Court yw'r tri phrif cwrt.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pencampwriaeth Agored Awstralia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.