System sillafu gonfensiynol (neu safonol) yw orgraff.
Defnyddir arwyddion gweledig - llythrennau - i geisio cyfleu'r seiniau llafar; gelwir cyfanswm yr arwyddion hyn yn wyddor, e.e. yr wyddor Ladin.
Mae orgraff unrhyw un iaith yn tueddu i amrywio o gyfnod i gyfnod yn hanes yr iaith honno. Dim ond yn bur ddiweddar y ceisiwyd safoni orgraff yn yr ieithoedd Ewropeaidd; cyn i eiriaduron ddod yn gyffredin roedd orgraff yn tueddu i fod yn fympwyol. Gwelir hyn yn achos y Gymraeg. Er i orgraff Cymraeg Canol fod yn bur sefydlog (er bod sillafiad gair yn amrywio), yng nghyfnod y Dadeni ceisiodd y Dyneiddwyr fel William Salesbury ac, yn ddiweddarach, Gruffydd Robert, ddiwygio'r orgraff a chreu arwyddion newydd i gynrychioli seiniau'r iaith. Cafwyd sawl ymgais arall ond doedd gan Gymru ddim prifysgol na sefydliad arall a allasai safoni'r orgraff ac mewn canlyniad arosodd orgraff yr iaith Gymraeg yn fympwyol a dadleuol hyd ddechrau'r 20g. Brithir llenyddiaeth Gymraeg y 19eg ganrif â geiriau gwneud yn orgraff ryfedd William Owen Pughe, er enghraifft. Cyhoeddodd Syr John Morris-Jones ei lyfr Orgraff yr Iaith Gymraeg yn 1928, sail Cymraeg ysgrifenedig safonol heddiw, sy'n gosod allan argymhellion Pwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru ar orgraff yr iaith.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Orgraff, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.