Mae Lesneven (Ffrangeg: Lesneven) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw.
Mae'n ffinio gyda Le Folgoët, Kernouës, Ploudaniel, Plouider, Saint-Méen ac mae ganddi boblogaeth o tua 7,377 (1 Ionawr 2021).
Math | cymuned |
---|---|
Prifddinas | Lesneven |
Poblogaeth | 7,377 |
Pennaeth llywodraeth | Claudie Balcon |
Gefeilldref/i | Kežmarok |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 10.27 km² |
Yn ffinio gyda | Ar Folgoad, Kernouez, Plouzeniel, Plouider, Sant-Neven |
Cyfesurynnau | 48.5719°N 4.3222°W |
Cod post | 29260 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Lesneven |
Pennaeth y Llywodraeth | Claudie Balcon |
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.
Mae gwreiddiau Lesneven yn perthyn i'r cyfnod o fewnfudo'r Brythoniaid o dde-orllewin Prydain yn y 5ed a'r 6g, ystryr enw'r dref yw Llys-Ifan yn Gymraeg ar ôl arweinydd milwrol honedig o'r cyfnod.
Lesneven oedd y dref gaerog a oedd yn rheoli Dugaeth Leon yn ystod yr Oesoedd Canol. Mae'r castell yn awr wedi mynd, ond mae llawer o adeiladau o'r 15fed-18g yn dal i gael eu gweld yn y gymuned. Mae Amgueddfa Leon yma. Mae'r dref yn awr yn gweithredu fel canolfan farchnad a gwasanaeth ar gyfer yr ardal wledig o'i chwmpas.
Lansiodd Lesneven cynllun iaith Ya d'ar brezhoneg yng Ngorffennaf 2007.
Yn 2008 roedd 19.08% o blant ysgol gynradd yn derbyn addysg ddwyieithog.
Mae Lesneven wedi'i gefeillio â:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Lesneven, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.