Bu Rhisiart Hincks yn athro Llydaweg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Brodor o Gaerlŷr, Lloegr, yw Hincks. Dysgodd Gymraeg drwy ddilyn y llyfr Teach Yourself Welsh gan J. T. Bowen a T. J. Rhys Jones, a thrwy wrando ar gyrsiau radio’r BBC (Welsh for Beginners a Cam Ymlaen).
Rhoddodd ei gyfnod fel myfyriwr yn neuaddau Cymraeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gyfle iddo ymdrochi yn yr iaith. Y pryd hynny, arferid aros mewn neuadd Gymraeg am gyfnod o dair blynedd. Graddiodd yn Aberystwyth gyda B.A. mewn llenyddiaeth Gymraeg ac yna cwblhaodd M.A. ar fywyd a gwaith E. Prosser Rhys, a Doethuriaeth mewn Hanes Ysgolheictod Llydaweg.
Fe'i penodwyd yn diwtor yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle y bu'n darlithio ar hanes y Gymraeg ac yn dysgu Llydaweg Modern drwy gyfrwng y Gymraeg, hyd nes iddo ymddeol yn 2014. Yn 2007 fe’i hanrhydeddwyd ag Urzh an Ermin (Urdd y Carlwm) gan Skol-Uhel ar Vro / Institut Culturel de Bretagne. Bu'n cyfrannu i’r cylchgrawn Llydaweg Al Lanv (Kemper)'am nifer o flynyddoedd. Deil yn weithgar gyda Chymdeithas Cymru-Llydaw. Wedi ymddeol, mae wedi ymroi i ddysgu Gwyddeleg.
Bu bob amser yn cefnogi annibyniaeth i bob un o'r gwledydd Celtaidd ac yn llwyr wrthwynebu grymoedd yr asgell dde mewn gwleidyddiaeth. Teimla hefyd yn gryf yn erbyn y diwydiant niwclear, gan gynnwys ynni niwclear.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhisiart Hincks, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.