Ynys yng ngorllewin y Môr Canoldir ydy Ibiza (Catalaneg: Eivissa neu Illa d'Eivissa).
Saif 79 km o ddinas arfordirol Valencia ar Benrhyn Iberia, Sbaen. Dyma'r ynys drydydd fwyaf o'r Ynysoedd Balearig, ac mae'n un o gymunedau hunanlywodraethol Sbaen. Dinasoedd mwyaf yr ynys ydy Tref Ibiza, Santa Eulària des Riu a Sant Antoni de Portmany.
Math | ynys, endid tiriogaethol gweinyddol, Counties of the Balearic Islands and the Pitiüses |
---|---|
Prifddinas | Ibiza |
Poblogaeth | 154,210 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg, Catalaneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Pitiusic Islands |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 577 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Cyfesurynnau | 38.98°N 1.43°E |
Mae'r ynys yn adnabyddus am y partïon a gynhelir yn y clybiau nos mawrion sy'n denu nifer o dwristiaid. Fodd bynnag, mae Swyddfa Dwristiaeth Sbaen wedi bod yn ceisio denu mwy o deuluoedd yno. Mae'r clybiau nos nodedig yn cynnwys 'Space', 'Pacha', 'Privilege', 'Amnesia', 'DC10', Eden, El Divino, 'Es Paradis', a'r 'Café del Mar'.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ibiza, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.