Astudiaethau sy'n ymwneud ag agweddau cymdeithasol a diwylliannol bodau dynol yw'r gwyddorau cymdeithas.
Perthnasau a chysylltiadau cymdeithasol rhwng unigolion a grwpiau yw canolbwynt y gwyddorau cymdeithas. Yn eu cwmpas mae anthropoleg ddiwylliannol a chymdeithasol, cymdeithaseg, seicoleg gymdeithasol, gwyddor gwleidyddiaeth, ac economeg. Yn aml cynhwysir hefyd daearyddiaeth gymdeithasol ac economaidd, agweddau cymdeithasol addysg, hanes, astudiaethau cymharol o'r gyfraith, a rheolaeth a busnes.
Datblygodd y ddisgyblaeth hon yn sgil dyfodiad y dull gwyddonol yn ystod oes yr Oleuedigaeth. Yn y 19g fe'i rhennir yn anthropoleg, gwyddor gwleidyddiaeth, seicoleg, a chymdeithaseg, a chafodd damcaniaethau eang effaith sylweddol ar y maes. Ymhlith enwau mawr y cyfnod hwn oedd Auguste Comte, Karl Marx a Herbert Spencer. yn yr 20g datblygodd methodoleg y gwyddorau cymdeithas yn sylweddol: ymchwil mesurol, ystadegaeth, empiriaeth, a chymwyso'r maes at ddefnydd ymarferol.
Ers y 1950au defnyddir y term gwyddorau ymddygiad hefyd am yr un bynciau a gwmpasir gan y gwyddorau cymdeithas. Mae'r term hwn yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng y gwyddorau cymdeithas a'r gwyddorau bywyd sy'n ymwneud ag ymddygiad dynol, megis anthropoleg fiolegol a seicoleg ffisiolegol.
Gwyddorau cymdeithas |
---|
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg |
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwyddorau cymdeithas, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.