Gwlith yw dŵr ar ffurf diferion sy'n ymddangos ar wrthrychau tenau sydd yn yr awyr agored yn ystod y bore neu gyda'r nos.
Mae'n digwydd o ganlyniad i gyddwyso. Wrth i'r arwyneb oeri trwy belydru gwres, mae lleithder atmosfferig yn cyddwyso ar raddfa gynt nag y mae'n anweddu, ac yn ffurfio diferion o ddŵr o ganlyniad.
Os yw'r tymhered yn ddigon isel, gall gwlith ffurfio fel rhew; gelwir y ffurf hon yn barrug.
Oherwydd bod perthynas rhwng gwlith a thymheredd arwynebau, mae'n fwy amlwg ddiwedd yr haf ar arwynebau nad ydynt yn cael eu cynnhesu gan wres sydd wedi'i ddargludo o'r ddaear, fel glaswellt, dail, rheiliau, toeau ceir, a phontydd.
Nid ddylid cymysgu rhwng gwlith a dafnu, sef y proses sy'n caniatau i blanhigion ryddhau gormodedd o ddŵr allan o'u dail. Defnyddir teclyn o'r enw drosometer i fesur gwlith.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwlith, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.