Prifddinas Gweriniaeth Ymreolaethol Tsietsnia yn Rwsia yw Grozny (Rwseg: Гро́зный; Tsietsieg: Соьлжа-ГIала, Sölža-Ġala), weithiau hefyd Джовхар-ГIала (Džovxar-Ġala)).
Saif ar afon Soenzja, afon sy'n llifo i mewn i afon Terek. Roedd y boblogaeth yn 2002 yn 210,720, gostyngiad sylweddol o gyfnod yr Undeb Sofietaidd, pan gyrhaeddodd y boblogaeth 399,600.
Math | tref/dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 291,687 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ibrahim Salmanovich Zakriev, Zaur Khizriev, Khas-Magomed Kadyrov |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tsietsnieg, Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tsietsnia |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 324.16 km² |
Uwch y môr | 130 metr |
Cyfesurynnau | 43.3125°N 45.6986°E |
Cod post | 364000–364099 |
Pennaeth y Llywodraeth | Ibrahim Salmanovich Zakriev, Zaur Khizriev, Khas-Magomed Kadyrov |
Wedi diwedd yr Undeb Sofietaidd, daeth Grozny yn brifddinas gweriniaeth annibynnol de facto "Gweriniaeth Tsietsien Itskeria yn 1991. Bu ymladd ffyrnig yma yn ystod Rhyfel Cyntaf Tsietsnia rhwng Rhagfyr 1994 a Chwefror 1995, a lladdwyd 20,000 hyd 25,000 o'r trigolion. Bu ymladd yma eto yn ystod Ail Ryfel Tsietsnia yn 1999-2000, a lladdwyd nifer fawr o'r trigolion eto. Meddiannwyd y ddinas gan y Rwsiaid.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Grozny, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.