Gwrthdaro rhwng Ffederasiwn Rwsia a Gweriniaeth Tsietsniaidd Itsceria o Ragfyr 1994 hyd Awst 1996 oedd Rhyfel Cyntaf Tsietsnia.
Rhyfel Cyntaf Tsietsnia | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Hofrenydd Rwsiaidd a saethwyd lawr gan frwydrwyr Tsietsniaidd ger y brifddinas Grozny ym 1994 | |||||||
| |||||||
Cydryfelwyr | |||||||
Ffederasiwn Rwsia Cyngor Dros Dro Tsietsnia | Gweriniaeth Tsietsniaidd Itsceria | ||||||
Arweinwyr | |||||||
Boris Yeltsin Pavel Grachev Anatoly Kulikov Konstantin Pulikovsky Anatoliy Romanov Anatoly Shkirko Vyacheslav Tikhomirov Gennady Troshev | Dzhokhar Dudayev Aslan Maskhadov Ibn al-Khattab Shamil Basayev | ||||||
Nerth | |||||||
38,000 (Rhagfyr 1994) 70,500 (Chwefror 1995) | Amcangyfrif Rwsiaidd o ryw 15,000 o filwyr a 15,000 i ryfelwyr afreolaidd | ||||||
Anafusion a cholledion | |||||||
Milwrol: 5,732 yn farw neu ar goll (cyfrif swyddogol) Sifiliaid: Hyd at 100,000 o Rwsiaid ethnig yn y ddwy ryfel (amcangyfrif swyddogion Tsietsniaidd yn 2005) O leiaf 161 wedi'u lladd y tu allan i Dsietsnia | Milwrol: 17,391 yn farw neu ar goll Sifiliaid: Hyd at 30,000–40,000 o Dsietsniaid yn y ddwy ryfel (amcangyfrif swyddogion Tsietsniaidd yn 2005) |
Cafodd y Blaid Gomiwnyddol yng Ngweriniaeth Tsietsnia ei dymchwel gan fudiad poblyddaidd Dzhokar Dudayev a ddatganodd annibyniaeth oddi ar Ffederasiwn Rwsia ar 1 Tachwedd 1991. Wnaeth lluoedd arfog Rwsiaidd yn y weriniaeth ffoi yn raddol, gan alluogi gwrthryfelwyr Tsietsniaidd i anrheithio'r arfdai milwrol ffederal a chael gafael ar arfau.
Ar gychwyn y gwrthdaro, ffafriodd Arlywydd Ffederasiwn Rwsia, Boris Yeltsin, ymgyrch baner ffug ar ffurf gwrthryfel mewnol gyda chefnogaeth gudd y Wasanaeth Diogelwch Ffederal (FSB). Credodd na fyddai rhyfel rhwng claniau ym ymddangos yn annisgwyl yng nghymdeithas lwythol Tsietsnia. Ar 5 Rhagfyr 1994, cydnabodd Yeltsin rhan Rwsia yn ymosodiadau gan filisia Ruslan Khasbulatov ar faes awyr a phalas arlywyddol y brifddinas Grozny ar 25 Tachwedd. Anfonodd lluoedd Rwsiaidd i Tsietsnia fel rhan o Ymgyrch y Don yn Rhagfyr 1994 ac Ionawr 1995 gan lwyddio i gipio'r brifddinas ym Mrwydr Grozny, a thros yr ugain mis nesaf buont yn brwydro rhyfelwyr gerila yn ardaloedd mynyddig y weriniaeth.
Methodd Yeltsin i ragweld maint a brwdfrydedd y gwrthsafiad Tsietsniaidd, undod y Tsietsniaid, er gwaethaf eu gwahaniaethau llwythol, yn erbyn Rwsia, a'r tueddiad hanesyddol o fethiant ymgyrchoedd milwrol yn ystod gaeaf y Cawcasws. Wrth i'r rhyfel fynd yn fwyfwy amhoblogaidd ymhlith cyhoedd Rwsia, datganodd Yeltsin gadoediad cyn etholiad arlywyddol 1996 ac arwyddwyd cytundeb ar 31 Awst 1996 i ddod â therfyn i'r rhyfel. Ni ddatrysodd y cytundeb yr anghydfod dros statws cyfansoddiadol Tsietsnia, a dechreuodd Ail Ryfel Tsietsnia ym 1999.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhyfel Cyntaf Tsietsnia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.