Glynceiriog: Pentref yng nhymuned Llansanffraid Glyn Ceiriog, Sir Wrecsam

Pentref yng nghymuned Llansantffraid Glyn Ceiriog, mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Glynceiriog neu Glyn Ceiriog.

Mae ganddo gysylltiad pwysig â diwydiant chwareli llechi. Gorwedd y pentref ar lan afon Ceiriog a'r ffordd B4500, 6.5 milltir (10 km) i'r gorllewin o'r Waun a 3.5 milltir (5.5 km) i'r de o Langollen. Yn wleidyddol mae'n rhan o ward Dyffryn Ceiriog, yn etholaeth cynulliad De Clwyd a'r etholaeth seneddol o'r un enw. Roedd chwareli llechi estynedig yno ac adeiladwyd Tramffordd Dyffryn Glyn i gymryd y llechi i lanfa ar Gamlas Undeb Swydd Amwythig ac yn nes ymlaen i gyfnewid traciau gyda Rheilffordd y Great Western o Gaer i Amwythig.

Glynceiriog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlansantffraid Glyn Ceiriog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9333°N 3.1872°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ202380 Edit this on Wikidata
Cod postLL20 Edit this on Wikidata

Daearyddiaeth a gweinyddiaeth

Glynceiriog: Daearyddiaeth a gweinyddiaeth, Pobl o Lynceiriog, Oriel 
Golygfa ar bentref Glynceiriog

Hanes gweinyddol

Yn hanesyddol, gweinyddwyd Glyn Ceiriog fel plwyf ac yn nes ymlaen fel plwyf gweinyddol Llansanffraid Glyn Ceiriog. O ganol y 16g hyd 1974, llywodraethwyd Glyn Ceiriog gan sir weinyddol Sir Ddinbych, a rannwyd yn sawl ardal wledig. Rhwng 1895 a 1935, roedd Glyn Ceiriog yn rhan o Ardal Wledig y Waun, a gyfunwyd gydag Ardal Wledig Llansilin yn 1935 i greu Ardal Wledig Ceiriog. Roedd Glyn Ceiriog yn rhan o Ardal Wledig Ceiriog wedyn o 1935 hyd 1974.

Yn 1974, cafwyd wared ar yr hen Sir Ddinbych fel sir weinyddol, a chyfunwyd Glyn Ceiriog ag Ardal Glyndŵr yn sir newydd Clwyd. Cafwyd wared ar sir Clwyd ac Ardal Glyn Dŵr yn 1996, a daeth Glyn Ceiriog yn rhan o awdurdod unedol Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel y mae hyd heddiw.

Cynrychiolaeth wleidyddol

Gweinyddir Glynceiriog o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a drodd yn awdurdod unedol yn 1998. Mae'n rhan o ward Dyffryn Ceiriog, ac mae ganddi gynghorwr annibynnol.

Mae yn etholaeth cynulliad De Clwyd a chynrychiolir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o 1999 hyd 2011 gan Karen Sinclair ac ers 2011 gan Ken Skates, y ddau yn aelod o'r Blaid Lafur.

Saif mewn etholaeth seneddol o'r enw De Clwyd a chynrychiolir yn Senedd y Deyrnas Unedig o 1997 hyd 2010 gan Martyn Jones ac ers 2010 gan Susan Elan Jones, y ddau yn aelod o'r Blaid Lafur.

Daearyddiaeth/daeareg

Lleolir y pentref yn Nyffryn Ceiriog, dyffryn a grewyd gan Afon Ceiriog. Yn ddaearegol, mae gan y dyffryn stratau Ordoficiaidd a Silwriaidd. Mae'r pridd yn fân ac yn fawnog.

Pobl o Lynceiriog

Mae sawl llenor wedi byw yn neu'n agos i Lynceiriog yn y gorffennol, yn cynnwys:

Oriel

Cyfeiriadau

Tags:

Glynceiriog Daearyddiaeth a gweinyddiaethGlynceiriog Pobl o LynceiriogGlynceiriog OrielGlynceiriog CyfeiriadauGlynceiriogAfon CeiriogAmwythigCaerCymruCymuned (Cymru)De Clwyd (etholaeth Cynulliad)De Clwyd (etholaeth seneddol)Diwydiant llechi CymruDyffryn CeiriogLlangollenLlansantffraid Glyn CeiriogLlechiRheilffordd y Great WesternWrecsam (sir)Y Waun

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Keanu ReevesByseddu (rhyw)YmennyddAgnes AuffingerLloegrJohn DonneCoeur d'Alene, IdahoCymruMulfranAmericanwyr SeisnigY FfindirThomas County, NebraskaJohn Eldon Bankes2019Boone County, NebraskaKhyber PakhtunkhwaSummit County, OhioNevadaNewton County, ArkansasCleburne County, ArkansasKarim BenzemaHolt County, NebraskaWicipediaFertibratCAMK2BJefferson County, NebraskaLewis HamiltonDemolition ManGorfodaeth filwrol1581Mwncïod y Byd NewyddPrairie County, MontanaButler County, OhioCheyenne, WyomingCascading Style SheetsHarry BeadlesWebster County, NebraskaWarren County, OhioWcreinegHocking County, OhioBurying The PastDiafframArwisgiad Tywysog CymruArizonaPRS for MusicMervyn JohnsLlyngyren gronCIAPrishtinaJosephusOedraniaethArolygon barn ar annibyniaeth i GymruHaulBalcanauMehandi Ban Gai KhoonGanglionGorbysgotaBoeremuziek16441927JapanMonett, MissouriSaesnegKellyton, AlabamaAmericanwyr IddewigCharmion Von WiegandLorain County, OhioSex and The Single GirlDisturbiaHarri PotterBrandon, De Dakota🡆 More