Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1900 (Ffrangeg: Jeux olympiques d'été de 1900) digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r II Olympiad rhwng 14 Mai a 28 Hydref yn Paris, Ffrainc.
Enghraifft o'r canlynol | Gemau Olympaidd yr Haf |
---|---|
Dyddiad | 1900 |
Dechreuwyd | 14 Mai 1900 |
Daeth i ben | 28 Hydref 1900 |
Rhagflaenwyd gan | 1896 Summer Olympics |
Olynwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1904 |
Lleoliad | Paris |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Gwefan | https://olympics.com/en/olympic-games/paris-1900 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cafodd Paris ei ddewis fel lleoliad y Gemau yn ystod cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol yn Sorbonne, Paris ar 24 Mehefin 1894. O dan orychwyliaeth Pierre de Coubertin penderfynwyd dewis Paris er mwyn cydfynd â Ffair y Byd fyddai'n cael ei gynnal yn y ddinas yn yr un flwyddyn.
Mae cryn drafodaeth ynghylch y nifer o wledydd fu'n cystadlu yn y Gemau ym 1900 gan fod rhai cystadlaethau tîm yn cynnwys athletwyr o fwy nag un wlad. Yn ôl yr IOC 24 o wledydd oedd yn bresenol ond mae ymchwil modern yn awgrymu fod 28 o wledydd wedi eu cynrychioli. Yn ogystal, roedd nifer o gystadlaethau timau, gan gynnwys Rygbi'r Undeb, Polo dŵr a Tynnu rhaff yn cynnwys athletwyr o fwy nag un wlad.
Dyma'r unig Gemau lle cafwyd cystadleuaeth criced. Llwyddodd Prydain Fawr i drechu Ffrainc yn yr unig gêm yn y gystadleuaeth er mwyn cipio'r fedal aur.
Cafwyd cystadleuaeth Rygbi'r Undeb am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd gyda'r Almaen, Ffrainc a Prydain Fawr yn cystadlu. Dim ond dwy gêm a gafwyd wrth i Ffrainc drechu'r Almaen a Phrydain er mwyn casglu'r fedal aur gyda'r Almaen a Phrydain yn cael medal arian.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gemau Olympaidd yr Haf 1900, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.