Gemau'r Gymanwlad 2018

Gemau'r Gymanwlad 2018 oedd yr unfed tro ar hugain i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal.

Arfordir Aur, Queensland, Awstralia oedd cartref y Gemau gafodd eu cynnal rhwng 4 - 15 Ebrill 2018. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Basseterre, Sant Kitts-Nevis ym mis Tachwedd 2011 gyda Dinas Gold Coast yn ennill y bleidlais gyda 43 pleidlais a 27 pleidlais i Hambantota, Sri Lanca a ddaeth yn ail.

21in Gemau'r Gymanwlad
Gemau'r Gymanwlad 2018
Campau19
Seremoni agoriadol4 Ebrill
Seremoni cau14 Ebrill
Agorwyd yn swyddogol ganY Tywysog Siarl, Tywysog Cymru
XX XXII  >
Gemau'r Gymanwlad 2018
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad2018 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 Ebrill 2018 Edit this on Wikidata
Daeth i ben15 Ebrill 2018 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadGold Coast Edit this on Wikidata
RhanbarthQueensland Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gc2018.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dyma oedd y pumed tro i Awstralia gynnal Gemau'r Gymanwlad.

Uchafbwyntiau'r Gemau

Flora Duffy o Bermuda gipiodd fedal aur cyntaf y Gemau yn y Triathlon i ferched. Dyma oedd medal aur cyntaf Bermuda yng Ngemau'r Gymanwlad ers i Nick Saunders gipio aur yn y naid uchel yn Auckland ym 1990.

Llwyddodd Fanwatw, Ynysoedd Cook, Ynysoedd Solomon, Dominica, Ynysoedd Morwynol Prydain a Sant Lwsia i ennill medal am y tro cyntaf yn hanes Gemau'r Gymanwlad.

Daeth medalau Fanwatw, Dominica, Ynysoedd Morwynol Prydain a Sant Lwsia yn yr athletau wrth i Kyron McMaster ennill aur yn y 400m dros y clwydi i'r Ynysoedd Morwynol Prydain a cipiodd Levern Spencer o Sant Lwsia yr aur yn y naid uchel. Cafwyd medalau efydd i Friana Kwevira o Fanwatw yn y gwaywffon T36, Thea Lafond o Dominica yn y naid driphlyg i ferched.

Llwyddodd Aidan Zittersteijn a Taiki Paniani o Ynysoedd Cook i drechu'r pâr o Malta er mwyn ennill medal efydd yng nghystadleuaeth parau bowlio lawnt a cipiodd Jenly Wini fedal efydd yng nghategori 58 kg codi pwysau i Ynysoedd Solomon.

Y codwr pwysau o Seland Newydd, David Liti, gafodd ei urddo â Gwobr David Dixon yn ystod y Seremoni Cloi..

Chwaraeon

Dychwelodd Pêl-fasged i'r gemau ar draul Jiwdo gyda Rygbi Saith-bob-ochr a Pel-foli Traeth yn cael eu cyflwyno am y tro cyntaf

Timau yn cystadlu

Roedd pob un o 71 o wledydd y Gymanwlad yn gyrru tîm i Gemau'r Gymanwlad, 2018 gyda Gambia yn dychwelyd i'r Gymanwlad ym mis Mawrth 2018 ond ni fu y Maldives yn cystadlu ar ôl gadael y Gymanwlad yn 2016.

Tabl medalau

Roedd 275 o wahanol gampau yn y Gemau a llwyddodd 43 o wledydd gwahanol i gipio medal gyda'r tîm cartref, Awstralia, yn gorffen ar frig y tabl medalau

 Safle  CGA Aur Arian Efydd Cyfanswm
1 Gemau'r Gymanwlad 2018  Awstralia* 80 59 59 198
2 Gemau'r Gymanwlad 2018  Lloegr 45 45 46 136
3 Gemau'r Gymanwlad 2018  India 26 20 20 66
4 Gemau'r Gymanwlad 2018  Canada 15 40 27 82
5 Gemau'r Gymanwlad 2018  Seland Newydd 15 16 15 46
6 Gemau'r Gymanwlad 2018  De Affrica 13 11 13 37
7 Gemau'r Gymanwlad 2018  Cymru 10 12 14 36
8 Gemau'r Gymanwlad 2018  Yr Alban 9 13 22 44
9 Gemau'r Gymanwlad 2018  Nigeria 9 9 6 24
10 Gemau'r Gymanwlad 2018  Cyprus 8 1 5 14
11 Gemau'r Gymanwlad 2018  Jamaica 7 9 11 27
12 Gemau'r Gymanwlad 2018  Maleisia 7 5 12 24
13 Gemau'r Gymanwlad 2018  Singapôr 5 2 2 9
14 Gemau'r Gymanwlad 2018  Cenia 4 7 6 17
15 Gemau'r Gymanwlad 2018  Wganda 3 1 2 6
16 Gemau'r Gymanwlad 2018  Botswana 3 1 1 5
17 Gemau'r Gymanwlad 2018  Samoa 2 3 0 5
18 Gemau'r Gymanwlad 2018  Trinidad a Tobago 2 1 0 3
19 Gemau'r Gymanwlad 2018  Namibia 2 0 0 2
20 Gemau'r Gymanwlad 2018  Gogledd Iwerddon 1 7 4 12
21 Gemau'r Gymanwlad 2018  Bahamas 1 3 0 4
22 Gemau'r Gymanwlad 2018  Papua Gini Newydd 1 2 0 3
23 Gemau'r Gymanwlad 2018  Ffiji 1 1 2 4
24 Gemau'r Gymanwlad 2018  Pacistan 1 0 4 5
25 Gemau'r Gymanwlad 2018  Grenada 1 0 1 2
26 Gemau'r Gymanwlad 2018  Bermiwda 1 0 0 1
Gemau'r Gymanwlad 2018  Gaiana 1 0 0 1
Gemau'r Gymanwlad 2018  Ynysoedd Morwynol Prydain 1 0 0 1
Gemau'r Gymanwlad 2018  Sant Liwsia 1 0 0 1
30 Gemau'r Gymanwlad 2018  Bangladesh 0 2 0 2
31 Gemau'r Gymanwlad 2018  Sri Lanca 0 1 5 6
32 Gemau'r Gymanwlad 2018  Camerŵn 0 1 2 3
33 Gemau'r Gymanwlad 2018  Dominica 0 1 1 2
34 Gemau'r Gymanwlad 2018  Ynys Manaw 0 1 0 1
Gemau'r Gymanwlad 2018  Mawrisiws 0 1 0 1
Gemau'r Gymanwlad 2018  Nawrw 0 1 0 1
37 Gemau'r Gymanwlad 2018  Malta 0 0 2 2
Gemau'r Gymanwlad 2018  Fanwatw 0 0 2 2
39 Gemau'r Gymanwlad 2018  Ynysoedd Cook 0 0 1 1
Gemau'r Gymanwlad 2018  Ghana 0 0 1 1
Gemau'r Gymanwlad 2018  Ynys Norfolk 0 0 1 1
Gemau'r Gymanwlad 2018  Seychelles 0 0 1 1
Gemau'r Gymanwlad 2018  Ynysoedd Solomon 0 0 1 1
Cyfanswm (43 o wledydd) 275 276 289 840

Medalau'r Cymry

Llwyddodd athletwyr Cymru i ennill 36 o fedalau - 10 medal aur, 12 medal arian a 14 medal efydd - cyfanswm medalau sydd gystal â'r nifer uchaf erioed o'r Gemau yn Glasgow yn 2014, ond yr adeg hynny dim ond pum medal aur gafodd y tîm. Gyda 10 medal aur yn cael eu hennill yn 2018, mae'r Gemau yn cael eu hystyried fel y Gemau gorau erioed i Gymru.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Rhagflaenydd:
Glasgow
Gemau'r Gymanwlad
Arfordir Aur
Olynydd:
Birmingham


Tags:

Gemau'r Gymanwlad 2018 Uchafbwyntiaur GemauGemau'r Gymanwlad 2018 ChwaraeonGemau'r Gymanwlad 2018 Timau yn cystadluGemau'r Gymanwlad 2018 Tabl medalauGemau'r Gymanwlad 2018 Medalaur CymryGemau'r Gymanwlad 2018 CyfeiriadauGemau'r Gymanwlad 2018 Dolenni allanolGemau'r Gymanwlad 2018AwstraliaGemau'r GymanwladGold Coast, QueenslandQueenslandSant Kitts-NevisSri Lanca

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Brân (band)Alexandria RileyWaxhaw, Gogledd CarolinaGwamCymdeithas yr IaithMoleciwlDeallusrwydd artiffisialIn My Skin (cyfres deledu)CymraegEigionegKatwoman XxxCiProtonLeighton JamesAn Ros MórEwropThe Times of IndiaIncwm sylfaenol cyffredinolOwain Glyn DŵrWiciadurVin DieselFfisegChwarel y RhosyddBasgegBronnoethIechydAfon TaweYr ArianninMynydd IslwynDreamWorks PicturesAbdullah II, brenin IorddonenAfon TafBrenhinllin ShangFfilm llawn cyffroCaer Bentir y Penrhyn DuGyfraithRhif Llyfr Safonol RhyngwladolThe Witches of BreastwickRhestr blodauDeddf yr Iaith Gymraeg 1967Cymylau nosloywContactYr Undeb EwropeaiddHatchetDerek UnderwoodPen-y-bont ar OgwrTamannaEiry ThomasBwncathIndiaMaineRhifau yn y GymraegMahanaNational Football LeagueShowdown in Little TokyoManon RhysTrydanAfon DyfrdwySex and The Single GirlLlanymddyfriLlanw LlŷnOutlaw KingYsgyfaintJava (iaith rhaglennu)Dyn y Bysus EtoSex Tape🡆 More