Nigeria

Gwlad yng ngorllewin Affrica yw Gweriniaeth Ffederal Nigeria neu Nigeria, gyda 36 talaith.

Ei phrifddinas yw Abuja. Y gwledydd cyfagos yw Benin i'r gorllewin, Tsiad a Chamerŵn i'r dwyrain, a Niger i'r gogledd ac mae Gwlff Gini (Cefnfor yr Iwerydd) yn ffin arfordirol iddi tua'r de.

Nigeria
Nigeria
Nigeria
Nigeria
ArwyddairUndod a Ffydd, Heddwch a Chynnydd Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwladwriaeth ffederal, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Niger Edit this on Wikidata
Lb-Nigeria.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Nigeria.wav, LL-Q9610 (ben)-Tahmid-নাইজেরিয়া.wav, LL-Q22809485 (apc)-Hassan Hassoon-نيجيريا.wav, LL-Q9027 (swe)-Moonhouse-Nigeria.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasAbuja Edit this on Wikidata
Poblogaeth211,400,708 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Hydref 1963 Edit this on Wikidata
AnthemCodwch, Gymrodyr! Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethBola Tinubu Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, Africa/Lagos Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGorllewin Affrica Edit this on Wikidata
GwladBaner Nigeria Nigeria
Arwynebedd923,768 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBenin, Niger, Tsiad, Camerŵn, São Tomé a Príncipe Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau9°N 8°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCabinet of Nigeria Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Nigeria Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Nigeria Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethBola Tinubu Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Nigeria Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBola Tinubu Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$440,834 million, $477,386 million Edit this on Wikidata
Ariannaira Edit this on Wikidata
Canran y diwaith8 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant5.65 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.535 Edit this on Wikidata

Cafwyd sawl brenhiniaeth yn Nigeria dros y blynyddoedd. Ffurfiwyd y wlad bresennol i raddau helaeth gan Ymerodraeth Prydain yn y 19g a ailwampiwyd yn 'Protectoriaethau' (neu 'Ddiffynwledydd') Gogledd a De Nigeria yn 1914. Cadwyd y syniad o frenhiniaethau bychan i raddau helaeth, gyda'r Saesneg yn eu huno'n fwy na dim arall a hi, heddiw, yw iaith swyddogol y wlad. Yn dilyn ei hannibyniaeth yn 1960 (fel llawer o wledydd eraill) cafwyd rhyfel cartref gan sawl llu a ddymunai ei rheoli: rhwng 1967–1970. Ers hynny, llywodraethwyd y wlad drwy drefniant y fyddin a gan etholiadau democrataidd.

Yr etholiadau cyntaf i'w derbyn yn hollol niwtral a theg oedd etholiad 2011 pan etholwyd Goodluck Jonathan. Yn etholiad cyffredinol y wlad ym Mawrth 2015, trechwyd Jonathan gan Muhammadu Buhari, gyda mwyafrif o ddim ond dwy filiwn o bleidleisiau. Derbynir yn gyffredinol i'r etholiad gael ei gweinyddu'n deg a niwtral.

Yn 2014 economi Nigeria oedd y cryfaf yn Affrica, gan oddiweddu De Affrica, a thyfu i fod yn werth $500 biliwn, a chodi i fod y 21fed economi mwya'r byd. Ar ben hyn, mae'r gyfradd dyled-GDP yn isel iawn: 11% yn unig. Erbyn 2050 credir y bydd Nigeria ymhlith 20 economi mwya'r byd. y rheswm pennaf dros y llwyddiant hwn yw tanwydd ffosil. Mae hyn wedi rhoi pwer iddi fel gwlad a dywed Banc y Byd ei bod yn farchnad sy'n tyfu.

Mae Nigeria'n aelod o MINT, sef grwp o wledydd a chaiff ei rhestru fel un o'r "Next Eleven", gyda gwledydd y byd yn rhagweld y bydd ei heconomi'n tyfu i fod yn un o'r mwya'n y byd. Mae Nigeria'n un o Wledydd y Gymanwlad, yr Undeb Affricanaidd, OPEC a'r Cenhedloedd Unedig.

Geirdarddiad

Cymerwyd yr enw Nigeria o Afon Niger sy'n llifo trwy'r wlad. Bathwyd yr enw hwn ar 8 Ionawr 1897, gan y newyddiadurwr Seisnig Flora Shaw, a briododd yn ddiweddarach â'r Arglwydd Lugard, gweinyddwr trefedigaethol Prydeinig. Mae tarddiad yr enw Niger, a oedd yn wreiddiol yn berthnasol i rannau canol Afon Niger yn unig, yn ansicr. Y tebygrwydd yw bod y gair yn addiasiad o'r enw Tuareg egerew n-iger ewen a ddefnyddid gan drigolion canol yr afon o amgylch Timbuktu, cyn gwladychiaeth Ewropeaidd y 19g.

Nigeria 
Cerflun clai Nok

Wrth fynd ati i gloddio Argae Kainji cafwyd hyd i waith haearn erbyn yr 2g CC. Mae'n debyg i'r trosglwyddiad o'r Oes Newydd y Cerrig (Neolithig) i Oes yr Haearn gael ei wneud heb gynhyrchu efydd canolradd. Mae eraill yn awgrymu i'r dechnoleg symud i'r gorllewin o Gwm Nile, er ei bod yn ymddangos bod yr Oes Haearn yn nyffryn Afon Niger a'r coedwigoedd 800 mlynedd cyn cyflwyno meteleg yn y safana uchaf.

Daearyddiaeth

    Prif: Daearyddiaeth Nigeria

Y man uchaf yn Nigeria yw mynydd Chappal Waddi, sydd 2,419 metr uwch lefel y môr.

Hanes

    Prif: Hanes Nigeria

Enillodd Nigeria annibyniaeth rannol oddi wrth Brydain ar 1 Hydref 1960.

Ffynnodd gwareiddiad Nok Nigeria rhwng 1,500 CC a 200 OC. Cynhyrchwyd ffigurau terracotta o bobl maint llawn sef rhai o'r cerfluniau cynharaf y gwyddys amdanynt yn Affrica Is-Sahara a mwyndoddwyd haearn erbyn tua 550 CC ac o bosibl ychydig ganrifoedd ynghynt. Mae tystiolaeth o fwyndoddi haearn hefyd wedi'i ei ganfod mewn safleoedd yn rhanbarth Nsukka yn ne-ddwyrain Nigeria: yn dyddio i 2000 CC ar safle Lejja ac i 750 CC yn Opi.

Hanes cynnar

 

Nigeria 
Pot Igbo seremonïol o Igbo-Ukwu o'r 9g

Mae'r Cronicl Kano yn gofnod hynafol sy'n dyddio i oddeutu 999 OC o ddinas-wladwriaeth Hausa Sahelian yn Kano, gyda dinasoedd mawr eraill yr Hausa (neu Hausa Bakwai) sef: Daura, Hadeija, Kano, Katsina, Zazzau, Rano, a Gobir- gyda chofnodion manwl yn eu disgrifio sy'n dyddio'n ôl i'r 10g. Gyda lledaeniad Islam o'r 7g OC, daeth yr ardal yn adnabyddus fel Sudan neu fel Bilad Al Sudan (Saesneg: Land of the Blacks; Arabeg : بلاد السودان). Gan fod y poblogaethau'n rhannol gysylltiedig â diwylliant Mwslimaidd-Arabaidd Gogledd Affrica, dechreuon nhw fasnachu Traws-Sahara a chyfeiriwyd atynt gan y siaradwyr Arabeg fel Al-Sudan (sy'n golygu "Y Crysau Duon") gan eu bod yn cael eu hystyried yn rhan estynedig o'r Byd Mwslimaidd. Ceir cyfeiriadau hanesyddol cynnar gan haneswyr a daearyddwyr Arabaidd a Mwslimaidd canoloesol at Ymerodraeth Kanem-Bornu fel prif ganolfan gwareiddiad Islamaidd y rhanbarth.

Cryfhawyd gafael Teyrnas Nri ar drigolion yr ardal, a pharahodd ei rheolaeth nes iddi golli ei sofraniaeth i Loegr ym 1911. Rheolwyd Nri gan yr Eze Nri, ac ystyrir dinas Nri yn sylfaen diwylliant yr Igbo. Mae Nri ac Aguleri, yn nhiriogaeth clan Umeuri. Gall y llwyth yma olrhain eu llinachau yn ôl at y brenin patriarchaidd Eri. Yng Ngorllewin Affrica, roedd y gwaith efydd hynaf a wnaed gan ddefnyddio'r broses cwyr coll yn dod o Igbo-Ukwu, dinas o dan ddylanwad Nri. Daeth teyrnasoedd Yoruba Ife ac Oyo yn ne-orllewin Nigeria yn amlwg yn y 12g a'r 14g, yn y drefn honno. Mae'r arwyddion hynaf o anheddiad dynol ar safle presennol Ife yn dyddio'n ôl i'r 9g ac mae ei ddiwylliant gweledol yn cynnwys ffigurau terracotta ac efydd nodedig iawn.

Gwladychu Prydain

Nigeria 
Frederick Lugard, Barwn Lugard 1af a arweiniodd fel Llywodraethwr Cyffredinol Nigeria at uno ProtectoriaethGeiriadur Cyffredinol CysgairAmddiffynfa Gogledd Nigeria a Protectoriaeth De Nigeria ym 1914.

Roedd masnach gaethweision Ewropeaidd yn digwydd yn yr ardal nes iddi gael ei gwahardd ym 1807.

Ymyrrodd Prydain ym mrwydr pŵer brenhiniaeth Lagos trwy fomio Lagos ym 1851, gan ddiorseddu Oba Kosoko, a gosod yr Oba Akitoye yn bennaeth a llofnodi'r Cytundeb rhwng Prydain Fawr a Lagos ar 1 Ionawr 1852. Atododd Prydain Lagos fel "trefedigaeth y Goron" yn Awst 1861 gyda Chytundeb Sesiwn Lagos . Ehangodd cenhadon o Brydain eu gwaith a theithio ymhellach i mewn i'r tir. Yn 1864, daeth Samuel Ajayi Crowther yn esgob Affricanaidd cyntaf yr Eglwys Anglicanaidd.

Ym 1885, derbyniodd nifer o wledydd fod gan Brydain hawl dros Orllewin Affrica yng Nghynhadledd Berlin. Y flwyddyn ganlynol, siartiodd Royal Niger Company o dan arweinyddiaeth Syr George Taubman Goldie. Erbyn diwedd y 19g a dechrau'r 20g, roedd y cwmni wedi llwyddo'n helaeth i ddarostwng teyrnasoedd annibynnol y de ar hyd Afon Niger, y Benin a orchfygwyd gan Loegr ym 1897, ac, yn y Rhyfel Eingl-Aro (1901-1902), trechodd Lloegr y gwrthwynebwyr eraill. Goresgynnwyd y taleithiau hyn yn ardal Niger a daethant dan reolaeth Prydain. Ym 1900, daeth tiriogaeth y Royal Niger Company dan reolaeth uniongyrchol llywodraeth Prydain a sefydlwyd Protectoriaeth De Nigeria fel amddiffynfa Brydeinig a rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig, pŵer mwyaf blaenllaw'r byd ar y pryd. Yn y broses yma lladdwyd miliynau o blant, merched a dynion cynhenid yr ardal.

Erbyn 1902, ymosododd byddin Lloegr ar Sokoto Caliphate. Cafodd y Cadfridog Prydeinig yr Arglwydd Frederick Lugard y dasg gan y Swyddfa Drefedigaethol i weithredu'r agenda. Gorchfygwyd y brodorion gan luoedd Prydain yn gyflym, gan anfon Attahiru I a miloedd o ddilynwyr ar ffo.

Ar Fawrth 13, 1903, yn sgwâr marchnad fawreddog Sokoto, fe ildiodd y caliphate olaf yn swyddogol i lywodraeth Prydain. Penododd y Prydeinwyr Muhammadu Attahiru II fel y caliph newydd. Diddymodd Lugard y caliphate ond cadwodd y teitl swltan fel enw symbolaidd yn Protectoraeth Gogledd Nigeria a oedd newydd ei threfnu. Daeth y gweddillion hyn i gael eu galw'n " Gyngor Swltaniaeth Sokoto". Ym Mehefin 1903, trechodd y Saeson weddill lluoedd Attahiru a;i ladd.

Erbyn 1906 roedd y gwrthwynebiad i oresgyniad Prydain wedi dod i ben.

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, mewn ymateb i dwf cenedlaetholdeb Nigeria a'r galwadau am annibyniaeth, symudodd Nigeria tuag at hunan-lywodraeth ar sail gynrychioliadol, ffederal. Erbyn canol yr 20g, roedd ton fawr o'r brodorion yn galw am annibyniaeth, ledled Affrica.

Enillodd Nigeria rhyw fesur o hunanreolaeth ym 1954, ac annibyniaeth lawn o’r Deyrnas Unedig ar 1 Hydref 1960, fel Ffederasiwn Nigeria gydag Abubakar Tafawa Balewa yn brif weinidog iddi, gan gadw brenhiniaeth Prydain, Elizabeth II, yn bennaeth mewn enw'n unig ar y wladwriaeth law yn llaw gyda Brenhines Nigeria. Disodlodd Azikiwe lywodraethwr cyffredinol y trefedigaeth, a benodwyd gan Loegr, yn Nhachwedd 1960.

Ieithoedd

Nigeria 
Map o grwpiau ieithyddol Nigeria

Clywyd 521 o ieithoedd yn Nigeria tan yn ddiweddar; mae naw ohonyn nhw bellach wedi diflannu.  Mewn rhai ardaloedd yn Nigeria, mae grwpiau ethnig yn siarad mwy nag un iaith. Dewiswyd iaith swyddogol Nigeria, Saesneg, i hwyluso undod diwylliannol ac ieithyddol y wlad, oherwydd dylanwad gwladychu Prydain a ddaeth i ben ym 1960. Mae llawer o siaradwyr Ffrangeg o'r gwledydd cyfagos wedi dylanwadu ar y Saesneg a siaredir yn rhanbarthau ffiniol Nigeria ac mae rhai o ddinasyddion Nigeria wedi dod yn ddigon rhugl yn Ffrangeg i weithio yn y gwledydd cyfagos. Mewn rhai mannau, mae'r Ffrangeg a siaredir yn Nigeria yn gymysg â rhai ieithoedd brodorol; maen nhw'n cymysgu Ffrangeg â'r Saesneg hefyd.

Mae'r prif ieithoedd a siaredir yn Nigeria yn cynrychioli tri theulu mawr o ieithoedd Affrica: mae'r mwyafrif yn ieithoedd Niger-Congo, megis Igbo, Yoruba, Ijaw, Fulfulde, Ogoni, ac Edo. Mae Kanuri, a siaredir yn y gogledd-ddwyrain, yn bennaf yn Nhalaith Borno ac Yobe, yn rhan o deulu Nilo-Sahara, ac mae Hausa yn iaith Affroasiatig. Er bod yn well gan y mwyafrif o grwpiau ethnig gyfathrebu yn eu hieithoedd eu hunain, defnyddir Saesneg fel yr iaith swyddogol yn helaeth ar gyfer addysg, trafodion busnes ac at ddibenion swyddogol. Lleiafrif bach yn unig o elit trefol y wlad sy'n defnyddio'r Saesneg fel iaith gyntaf, ac nid yw'n cael ei siarad o gwbl mewn rhai ardaloedd gwledig. Hausa yw'r prif iaith a siaredir fwyaf eang yn Nigeria.

Religion in Nigeria (est. 2018)      Muslim (55.9%)     Christian (43.6%)     Traditional faiths (0.6%)

Gwleidyddiaeth

    Prif: Gwleidyddiaeth Nigeria

Ers 2002 gwelwyd trais ar gynnydd e.e. Boko Haram y mudiad Islamaidd sy'n dymuno disodli llywodraeth y wlad gyda llywodraeth wedi'i seilio ar gyfraith Sharia. Yn ôl Arlywydd y wlad ym Mai 2014 roedd ymosodiadau Boko Haram wedi lladd 12,000 o bobl. Ymunodd y gwledydd sy'n ffinio â Nigeria i geisio ffrwyno'r terfysgwyr, yn bennaf fel ymateb i Ffrwydradau Nigeria, Nadolig 2011 a Herwgipio merched ysgol Chibok, 2014.

Diwylliant

    Prif: Diwylliant Nigeria

Economi

Ceir cysylltiad cryf rhwng economi Nigeria ac Unol Daleithiau America: hi yw partner masnachu mwya'r Unol Daleithiau yng nghanol a de Affrica, ac mae'n allforio 11% o'i holew i'r UDA ac mae'n allforio llawer o nwyddau eraill hefyd i'r UDA. Ar y llaw arall, yr Unol Daleithiau yw'r wlad sy'n buddsoddi fwyaf yn Nigeria. Yn ôl y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF), mae economi Nigeria wedi tyfu ar gyfartaledd o 8% ers 2008.

Yn 2014 economi Nigeria oedd y cryfaf yn Affrica, gan oddiweddu De Affrica, a thyfu i fod yn werth $500 biliwn, a chodi i fod y 21fed economi mwya'r byd. Ar ben hyn, mae'r gyfradd dyled-GDP yn isel iawn: 11% yn unig. Erbyn 2050 credir y bydd Nigeria ymhlith 20 economi mwya'r byd. y rheswm pennaf dros y tyfiant hwn yw tanwydd ffosil. Mae hyn wedi rhoi pwer iddi fel gwlad a dywed Banc y Byd ei bod yn farchnad sy'n tyfu.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Nigeria GeirdarddiadNigeria DaearyddiaethNigeria HanesNigeria GwleidyddiaethNigeria DiwylliantNigeria EconomiNigeria Gweler hefydNigeria CyfeiriadauNigeria Dolenni allanolNigeriaAbujaAffricaBeninCamerŵnCefnfor yr IweryddGwlff GiniNigerTsiad

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Robert RecordeLouis Pasteur30 MehefinCaerMahatma GandhiMozilla FirefoxRhys MwynAnhwylder deubegwnMeddalweddAnaal NathrakhEtholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016Dwight YoakamY PhilipinauPapy Fait De La RésistanceMeddygaethCymruLead BellySeiri RhyddionY DdaearUnol Daleithiau AmericaThe SpectatorAction PointLuciano PavarottiRoy AcuffBlaengroenBasbousaDurlifBen EltonISO 4217Isabel IceTodos Somos NecesariosSam WorthingtonWicipedia CymraegTamocsiffenSymbolBrexitPriodas gyfunryw yn NorwyKappa Mikey1902Coden fustlThe TransporterSystem weithreduAmerican Dad XxxLlwyn mwyar yr ArctigLife Is SweetDiltiasemPaffio21 Ebrill2002CyfalafiaethPiso14 GorffennafFideo ar alwEn attendant les hirondellesY Wlad Lle Mae'r Ganges yn BywGradd meistrThe Principles of LustThe Witches of BreastwickDydd Gwener y GroglithDafydd IwanAr Gyfer Heddiw'r BoreClaudio MonteverdiParamount PicturesRussell HowardSiamanaeth1680Rhyw llawGwilym Bowen RhysThe Unbelievable TruthYnys ElbaSiambr Gladdu TrellyffaintDuw CorniogWiliam III & II, brenin Lloegr a'r Alban🡆 More