Roedd 214 aelod yn nhîm Cymru yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, Awstralia rhwng 4 Ebrill a 15 Ebrill 2018.
Enghraifft o'r canlynol | cystadleuaeth chwaraeon i wledydd |
---|---|
Dyddiad | 2018 |
Gwladwriaeth | Awstralia |
Y triathletwraig Non Stanford oedd capten y tîm, gyda'r nofwraig, Jazz Carlin, yn cludo'r Ddraig Goch i'r Seremoni Agoriadol a'r codwr pwysau Gareth Evans gludodd y Ddraig Goch yn y seremoni cloi.
James Ball gipiodd fedal cyntaf Cymru gydag arian yn y ras tandem 1000m yn erbyn y cloc i feicwyr dall neu â nam golwg cyn i Gareth Evans ennill medal aur cyntaf Cymru yn y codi pwysau categori 69 kg.
Yn cystadlu yn ei bumed Gemau'r Gymanwlad, llwyddodd David Phelps i ennill y fedal aur yn y gystadleuaeth 50m Reiffl tra'n gorwedd a sefydlu record y Gymanwlad newydd. Dyma'r ail dro iddo ennill y fedal aur gan iddo ennill yr un gystadleuaeth yng Ngemau'r Gymanwlad 2006 ym Melbourne, Awstralia.
Aelodau tîm Cymru ym mhob camp
Camp | Dynion | Merched | Cyfanswm |
---|---|---|---|
Athletau | 14 | 12 | 26 |
Beicio | 15 | 6 | 21 |
Bocsio | 4 | 3 | 7 |
Bowlio lawnt | 10 | 7 | 17 |
Codi pwysau | 8 | 8 | 16 |
Gymnasteg | 5 | 8 | 13 |
Hoci | 18 | 18 | 36 |
Nofio | 5 | 9 | 14 |
Pêl-rwyd | N/A | 12 | 12 |
Plymio | 1 | 0 | 1 |
Reslo | 2 | 0 | 2 |
Rygbi saith-bob-ochr | 13 | 13 | 26 |
Saethu | 8 | 3 | 11 |
Sboncen | 2 | 2 | 4 |
Tenis bwrdd | 1 | 3 | 4 |
Triathlon | 2 | 2 | 4 |
Cyfanswm | 108 | 106 | 214 |
Llwyddodd athletwyr Cymru i ennill 36 o fedalau - 10 medal aur, 12 medal arian a 14 medal efydd - cyfanswm medalau sydd gystal â'r nifer uchaf erioed o'r Gemau yn Glasgow yn 2014, ond yr adeg hynny dim ond pum medal aur gafodd y tîm. Gyda 10 medal aur yn cael eu hennill yn 2018, mae'r Gemau yn cael eu hystyried fel y Gemau gorau erioed i Gymru.
Saethu oedd camp mwyaf llwyddiannus Cymru gyda dwu fedal aur, dwy fedal arian ac un medal efydd ond daeth y nifer fwyaf o fedalau yn y beicio gyda 6 medal yn cael eu hennill - un aur, pedair arian ac uyn efydd. Dyma hefyd y tro cyntaf erioed i Gymru ennill medal yn y ras lôn i ddynion ac i ferched yn yr un Gemau
Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
---|---|---|---|
Aur | Gareth Evans | Codi Pwysau | 69 kg |
Aur | Elinor Barker | Beicio | Ras bwyntiau |
Aur | Olivia Breen | Athletau | T38 Naid hir |
Aur | Daniel Salmon a Marc Wyatt | Bowlio lawnt | Dyblau'r dynion |
Aur | Holly Arnold | Athletau | F36 Gwaywffon |
Aur | Alys Thomas | Nofio | 200m Dull Pili pala |
Aur | David Phelps | Saethu | 50m Reiffl tra'n gorwedd |
Aur | Michael Wixey | Saethu | Trap |
Aur | Lauren Price | Bocsio | 75 kg |
Aur | Sammy Lee | Bocsio | 81 kg |
Arian | James Ball (Peter Mitchell) | Beicio | Tandem 1000m yn erbyn y cloc |
Arian | James Ball (Peter Mitchell) | Beicio | Tandem gwibio |
Arian | Lewis Oliva | Beicio | Keirin |
Arian | Laura Daniels | Bowlio lawnt | Senglau'r Merched |
Arian | Ben Llewellin | Saethu | Sgît |
Arian | Latalia Bevan | Gymnasteg | Llawr |
Arian | Chris Watson a Gareth Morris | Saethu | Gwobr y Frenhines (Parau) |
Arian | Daniel Jervis | Nofio | 1500m Dull rhydd |
Arian | Kane Charig | Reslo | 65 kg |
Arian | Laura Halford | Gymnasteg rhythmig | Cylch |
Arian | Jon Mould | Beicio | Ras lôn |
Arian | Rosie Eccles | Bocsio | 69 kg |
Efydd | Chloe Tutton | Nofio | 200m Dull broga |
Efydd | Bethan Davies | Athletau | Cerdded 30 km |
Efydd | Laura Hughes | Codi Pwysau | 75 kg |
Efydd | Tesni Evans | Sboncen | Senglau'r merched |
Efydd | Melissa Courtney | Athletau | 1500m |
Efydd | Georgia Davies | Nofio | 50m Dull cefn |
Efydd | Georgia Davies, Chloe Tutton, Alys Thomas a Kathryn Greenslade | Nofio | 4x100m Medli |
Efydd | Gilbert Miles a Julie Thomas | Bowlio lawnt | Parau cymysg B2/B3 |
Efydd | Olivia Breen | Athletau | T38 100m |
Efydd | Curtis Dodge | Reslo | 74 kg Dull rhydd |
Efydd | Sarah Wixey | Saethu | Trap |
Efydd | Mickey McDonagh | Bocsio | 60 kg |
Efydd | Dani Rowe | Beicio | Ras lôn |
Efydd | Joshua Stacey | Tenis bwrdd | TT6-10 senglau |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2018, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.