Botanegydd Cymreig oedd Eleanor Vachell (8 Ionawr 1879 – 6 Rhagfyr 1948) a adnabyddir yn bennaf am gasglu un o'r hebaria mwyaf cynhwysfawr a gasglwyd gan unigolion erioed, gyda ei thad, C.
T. Vachell: 6705 o sbesimenau sych sydd 'nawr yng nghasgliadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Eleanor Vachell | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ionawr 1879 Caerdydd |
Bu farw | 6 Rhagfyr 1948 Caerdydd |
Man preswyl | Cymru |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | botanegydd, casglwr botanegol |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas y Linnean |
Vachell oedd y fenyw gyntaf i eistedd ar Gyngor a Llys yr amgueddfa. Cedwir ei dyddiaduron, ei nodiadau, ynghyd â'r sbesimenau â gasglodd, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Un o'i phrif weithgareddau oedd adnabod a dosbarthu rhywogaethau newydd o blanhigion ym Morgannwg a thu hwnt, a llwyddodd dros ei hoes i ddisgrifio bron i bob planhigyn yng ngwledydd Prydain.
Ganed Eleanor Vachell yng Nghaerdydd ar 8 Ionawr 1879, merch hynaf Winifred a Charles Tanfield Vachell, ffisegwr, botanegydd amatur ac aelod o Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd.
Aeth i ysgolion yng Nghaerdydd, Malvern, a Brighton. Arferai Eleanor deithio gyda'i thad ar ei deithiau hela planhigion. Aethant drwy wledydd Prydain, Iwerddon, Llydaw, Norwy a'r Swistir.
Dechreuodd Vachell gadw dyddiadur pan yn ddeuddeg oed, a chadwodd hwnnw drwy ei hoes, gan gofnodi teithiau ymchwil a darganfyddiadau diddorol.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Vachell yn aelod o'r 'Committee Ladies of the Auxiliary Workers Territorial Forces Nursing Association', a oedd yn gweithio mewn ysbyty i filwyr yn Ysgol Gerddi Howard yng Nghaerdydd. Yn ôl ei dyddiaduron, ei phrif swyddogaethau oedd trwsio lleiniau a sanau - ond am nad oedd hi'n hoff o bwytho, dechreuodd weithio ar gadw trefn ar lyfrgell yr ysbyty.
Ychydig iawn o bobl ar yr adeg honno a wyddai cymaint â hi am holl blanhigion ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Credir erbyn heddiw iddi ganfod 1787 planhigyn allan o 1800, y mwyaf a gofnodwyd gan unigolyn.
Seisnigiad yw ei chyfenw o enw ardal Machell a dreiglir weithiau'n 'Fachell' e.e. Mechell, Ynys Môn. Ceir hefyd enw sant: Mechell a fl. yn y 5g neu 6g ac a gysylltir ag Ynys Môn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Eleanor Vachell, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.