Cymuned a thref yng ngogledd-ddwyrain Llydaw yw Dinan.
Saif yn département Aodoù-an-Arvor. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 11,235.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 14,675 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 8.7 km² |
Uwch y môr | 76 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Renk |
Yn ffinio gyda | Taden, Lanvalae, Kever |
Cyfesurynnau | 48.4556°N 2.0503°W |
Cod post | 22100 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Dinan |
Saif y dref ar lethrau bryn uwchben afon Renk, ychydig cyn i'r afon honno gyrraedd y môr rhwng Saint-Malo a Dinard. Hyd yn ddiweddar, Dinan oedd y fan fwyaf gogleddol lle gellid croesi'r afon, ac roedd ar ffordd bwysig rhwng Normandi a dwyrain Llydaw. Mae un darn o Frodwaith Bayeux yn dangos Dinan yn cael ei dinistrio gan Gwilym Goncwerwr yn yr 11g.
Yn 1357, ymosodwyd ar Dinan gan fyddin Seisnig, ond amddiffynnwyd y dref yn llwyddiannus gan Bertrand du Guesclin, oedd wedi ei eni yn Broons gerllaw. Ceir cerflun ohono yn y dref. Mae'r castell, y Château de Dinan, yn nodedig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dinan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.