Mae Deimos (Groeg Δείμος , ofnadwyaeth) yn un o ddwy loeren y blaned Mawrth.
Mae'n llai na'i chwaer Phobos ond yn bellach i ffwrdd, 14,600 milltir oddi wrth y blaned Mawrth. Mae ganddi siâp hirsgwar afreolaidd. Mae'n cymryd 30 awr 18 munud i gylchdroi oddi amgylch y blaned sy'n golygu y byddai'n weladwy am 2.5 diwrnod Mawrthaidd. Fel yn achos Phobos, brithir wyneb Deimos â chraterau. Cuddir y wyneb gan haen o regolith sydd â dyfnder o tua 50m. Mae Deimos wedi ei enwi ar ôl un o feibion Ares (Mawrth) ym mytholeg Roeg.
Enghraifft o'r canlynol | lleuad o'r blaned Mawrth |
---|---|
Màs | 1.48 ±0.04 |
Dyddiad darganfod | 12 Awst 1877 |
Echreiddiad orbital | 0.0002 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Deimos (lloeren), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.