Damcaniaeth yw damcaniaeth gydgynllwyniol sy'n honni bod cynllwyn neu gydgynllwyn cyfrinachol gan grŵp o bobl i ennill amcanion drwgdybus.
Mae rhai damcaniaethau yn ceisio esbonio digwyddiad hanesyddol trwy gynllwyn cyfrinachol, a damcaniaethau eraill yn honni bod cynllwyn systemig gan grŵp sydd ag amcanion eang, yn aml i reoli gwlad, rhanbarth, neu hyd yn oed yr holl fyd. Yn aml mae damcaniaethau cydgynllwyniol yn ymylol ac eithafol ac yn destun sgeptigaeth, a dadleuol iawn yw'r dystiolaeth drostynt, ond weithiau mae ambell cydgynllwyn y gellir ei brofi yn dod i'r amlwg.
Mae'r theoriau yn aml yn gweld llaw y Wladwriaeth Ddofn y wlad yn rhan o'u cynllwynion, boed yn wir neu beidio.
Mae nifer o gydgynllwynion hanesyddol a brofwyd i fod yn wir. Maent yn cynnwys sgandalau gwleidyddol, megis Watergate ac Iran-Contra, a phrosiectau cudd gan lywodraethau neu asiantaethau llywodraethol neu hyd yn oed sefydliadau a grwpiau eraill megis cwmnïau. Mae enghreifftiau eraill o gydgynllwynion gwir yn cynnwys arbrawf syffilis Tuskegee, Prosiect MKULTRA gan y CIA, a helynt dogfennau ffug wraniwm Niger.
Yn ôl yr academydd Katherine K. Young, "mae gan bob cydgynllwyn gwir o leiaf pedair arwedd nodweddiadol: grwpiau, nid unigolion ar ben eu hunain; amcanion anghyfreithlon neu sinistr, nid nodau bydd yn fuddiol i gymdeithas i gyd; gweithredoedd wedi eu trefnu a'u rheoli, nid cyfres o weithredoedd digymell ac ar hap; a chynllwynio cudd, nid trafodaeth gyhoeddus".
Damcaniaethau am lywodraeth fyd dotalitaraidd neu grwpiau sy'n ceisio rheoli'r byd.
Gweithredoedd cudd gan lywodraethau, yn aml yn erbyn sifiliaid neu dargedau milwrol eu hunain, sydd yna'n honni taw eraill, er enghraifft terfysgwyr, sy'n gyfrifol.
Damcaniaethau sy'n honni bod llywodraethau yn cuddio tystiolaeth o fywyd y tu hwnt i'r Ddaear.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Damcaniaeth gydgynllwyniol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.