Coginio yw'r broses o baratoi bwyd drwy osod gwres, dewis, mesur a chyfuno amrys o gynhwysion mewn modd trefnus er mwyn cynhyrchu bwyd diogel a bwytadwy.
Mae'r broses yn cynnwys amryw helaeth o ddulliau, offer a chyfuniadau o gynhwysion i newid blas, golwg, ansawdd neu dreuliadedd bwyd. Mae'r ffactorau sy'n effeithio ar y canlyniad yn cynnwys amrywiaethau yn y cynhwysion, amodau'r awyrgylch, offer, a'r person gallus, sef y cogydd, sy'n gwneud y coginio.
Mae amrywiaeth eang coginio yn fyd-eang yn adlewyrchu'r amrywiaethau mewn diwylliant, amaethyddiaeth, esthetig, economi, cymdeithas a chrefydd ar draws y byd.
Mae gosod gwres ar fwyd fel arfer, ond nid bob tro, yn ei newid yn gemegol, gan effeithio ar y blas, golwg, ansawdd a'i werth maeth. Mae dulliau o goginio sy'n cynnwys berwi gyda hylif mewn llestr wedi cael ei ymarfer ers y 10fed mileniwm CC, yn dilyn dyfodiad crochenwaith.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Coginio, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.