Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Castell-nedd (Saesneg: Neath).
Mae'n gorwedd ar lan chwith Afon Nedd. Roedd ganddi boblogaeth o 19,258 yn 2011.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 50,658 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.66°N 3.81°W |
Cod SYG | W04000618 |
Cod OS | SS745975 |
Cod post | SA10–11 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jeremy Miles (Llafur) |
AS/au | Christina Rees (Llafur) |
Man croesi'r afon oedd Castell-nedd i ddechrau, ac ymsefydlodd pobl yma yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Ond at dri lle yn unig yng Nghymru y mae'r llenor Rhufeinig Tacitus yn cyfeirio atynt yn ei Historiae (Hanes), ac mae Castell-nedd yn un ohonynt.
Ceir tystiolaeth am aneddiadau hynafol yn y bryniau sy'n amgylchynu'r dref, ac mae'n debyg mai aneddiadau Celtaidd ydynt ond nid ydynt wedi cael eu dyddio. Canfuwyd gweddillion dynol 25 km i ffwrdd yn Ogof Paviland ar Benrhyn Gŵyr, yn dyddio o 24,000 CC, gan brofi bod pobl yn byw yn yr ardal yn ystod Oes yr Iâ ddiwethaf. Er y'i hadnabyddir fel "Arglwyddes Goch Paviland", gweddillion dyn nid menyw ydy. Roedd Castell-nedd wedi ei leoli ar ymyl deheuol y cynfas o iâ, ac roedd Glyn Nedd yn ddyffryn rhewlifol. Daeth llystyfiant ac anifeiliaid i'r ardal yn dilyn enciliad y rhew tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl.
Roedd trigolion Castell-nedd cyn dyfodiad y Rhufeniaid yn perthyn i lwyth Celtaidd y Silwriaid. Nidum yw'r enw ar y gaer Rufeinig a ganfuwyd yn agos i'r ystad dai, a adnabyddir fel Roman Way, ar lan orllewinol Afon Nedd. Roedd y gaer yn gorchuddio ardal eang sy'n gorwedd dan feysydd chwarae Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin heddiw.
Mae adfeilion castell bychan Normanaidd, sef y Castell Nedd gwreiddiol, ger canol y dref.
Roedd yn dref farchnad, a chychwynodd diwydiant newydd yna yn ystod y 18g, sef haearn, dur ac alcam. Mwyngloddid llawer o lo yn yr ardal, a daeth y dref yn ganolfan bwysig i gludiant ar reilffyrdd a chamlesi. Mwyngloddid hefyd silica. Adeiladwyd goethdŷ i betrol yn yr 20ed ganrif.
Roedd y dref yn borthladd hyd yn ddiweddar.
Mae atyniadau i ymwelwyr yn cynnwys Abaty Nedd, Parc Y Gnoll, a'r farchnad.
Rhannau amlwg o'r dref yw Tonna i'r gogledd, Cimla i'r dwyrain, Bryncoch a Sgiwen i'r gorllewin a Llansawel i'r de.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghastell-nedd ym 1918, 1934 a 1994. Am wybodaeth bellach gweler:
Gwlad | Dinas |
---|---|
Sbaen | Albacete |
Yr Almaen | Esslingen |
Gwlad Pwyl | Piotrkow Trybunalski |
Yr Iseldiroedd | Schiedam |
Yr Eidal | Udine |
Slofenia | Velenje |
Ffrainc | Vienne |
Trefi
Aberafan · Castell-nedd · Glyn-nedd · Llansawel · Pontardawe · Port Talbot
Pentrefi
Aberdulais · Abergwynfi · Alltwen · Baglan · Banwen · Bedd y Cawr · Blaendulais · Blaen-gwrach · Blaengwynfi · Bryn · Cil-ffriw · Cilmaengwyn · Cilybebyll · Y Clun · Y Creunant · Cwmafan · Cymer · Cwm-gors · Cwmllynfell · Dyffryn Cellwen · Efail-fach · Glyncorrwg · Godre'r-graig · Gwauncaegurwen · Llandarcy · Llangatwg · Llan-giwg · Margam · Melin-cwrt · Morfa Glas · Onllwyn · Pentreclwydau · Pontrhydyfen · Pwll-y-glaw · Resolfen · Rheola · Rhos · Rhyd-y-fro · Sgiwen · Tai-bach · Ton-mawr · Tonna · Trebannws · Ynysmeudwy · Ystalyfera
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Castell-nedd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.