Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Resolfen (Saesneg: Resolven).
Lleolir yn nyffryn Afon Nedd, ar bwys yr A465, sef ffordd 'Blaenau'r Cymoedd'. Y pentref yw prif annedd plwyf Resolfen, ac ynghyd â phlwyf Clun a Melincwrt mae'n cyfansoddi ward etholaeth Resolfen.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,316 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,038.78 ha |
Cyfesurynnau | 51.72°N 3.7°W |
Cod SYG | W04000623 |
Cod OS | SN828025 |
Cod post | SA11 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jeremy Miles (Llafur) |
AS/au | Christina Rees (Llafur) |
Mae nifer o ystadau diwydiannol yn yr ardal o'i amgylch, sydd wedi dioddef yn ystod yr 1980au a'r 1990au. Lleolir marchnad dan dô Rheola ar safle hen ffatri ger llaw. Mae'r ardal ehangach yn wledig a deiniadol ac mae Camlas Nedd yn llifo yr ochr arall i'r A465. Mae'r pentref hefyd yn gyn-gartref i'r AS Peter Hain.
Mae'r band roc arbrofol, Spray Me Spray You, wedi recordio demos ar gyfer eu albwm yng Nghanolfan Cymdeithas Resolfen. Daw'r band El Goodo o'r pentref hefyd.
Mae'r pentref hefyd yn lleoliad ar gyfer un o gymalau mwyaf adnabyddus Rali Prydain Fawr, Cymru ers sawl blynedd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur) ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Trefi
Aberafan · Castell-nedd · Glyn-nedd · Llansawel · Pontardawe · Port Talbot
Pentrefi
Aberdulais · Abergwynfi · Alltwen · Baglan · Banwen · Bedd y Cawr · Blaendulais · Blaen-gwrach · Blaengwynfi · Bryn · Cil-ffriw · Cilmaengwyn · Cilybebyll · Y Clun · Y Creunant · Cwmafan · Cymer · Cwm-gors · Cwmllynfell · Dyffryn Cellwen · Efail-fach · Glyncorrwg · Godre'r-graig · Gwauncaegurwen · Llandarcy · Llangatwg · Llan-giwg · Margam · Melin-cwrt · Morfa Glas · Onllwyn · Pentreclwydau · Pontrhydyfen · Pwll-y-glaw · Resolfen · Rheola · Rhos · Rhyd-y-fro · Sgiwen · Tai-bach · Ton-mawr · Tonna · Trebannws · Ynysmeudwy · Ystalyfera
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Resolfen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.