Capel Bedyddwyr Calfaria, Aberdâr, oedd un o eglwysi mwyaf y Bedyddwyr yn y Cymoedd ac yr hynaf yn nyffryn Aberdâr.
Bu gan y capel addurniadau mewnol, gan gynnwys nenfwd astellog gyda rhosyn dwfn wedi ei dandorri; roedd gan y balconi canllaw haearn bwrw wedi ei ddylunio gyda chynllyn cywrain ar siâp dail. Nodweddion a oedd yn gyffredin mewn capeli Cymraeg y cyfnod. Cafodd organ ei osod ym 1903 ar gost o £850. cafodd ei chanu am y tro olaf yn 2012 gan Robert Nicholls, yn ystod darllediad gan BBC Radio Cymru ychydig cyn y cau'r capel.
Calfaria, Aberdâr | |
---|---|
Calfaria, Aberdâr yn 2014 | |
Lleoliad | Monk Street, Aberdâr |
Gwlad | Cymru |
Cristnogaeth | Bedyddwyr |
Hanes | |
Sefydlwyd | 1811 |
Pensaerniaeth | |
Dynodiad (etifeddiaeth) | Gradd II |
Dynodiad | 1 Hydref 1991 |
Pensaer/i | Thomas Joseph |
Pensaerniaeth | Capel |
Math o bensaerniaeth | 19 canrif |
Cwbwlhawyd | 1852 (yn lle adeilad hŷn) |
Cost ei chodi | £1,400 |
Caewyd | 2012 |
Manylion | |
Cynulleidfa | 840 |
Cynhaliwyd cyfarfodydd cynharaf y Bedyddwyr yn yr ardal mewn adeiladau amaethyddol neu yn Ystafell Hir tafarn y Farmers Arms Aberdâr. Ym 1811, cafwyd darn bach o dir ar brydles gan Griffith Davies Ynysybwl i adeiladu capel arni. Ym 1812 agorodd capel Carmel, neu Gapel Penypound ar lafar gwlad. Y gweinidog cyntaf oedd William Lewis. Bu'r eglwys yn ei chael yn anodd yn y dyddiau cynnar oherwydd methiant gwaith Haearn Aberdâr ym 1815, a daeth ofalaeth Lewis i ben wedi dim ond dwy flynedd.
Dechreuodd Thomas Price ei weinidogaeth ar gapel Carmel Penypound ym 1845. Cynyddodd yr aelodaeth yn ystod cyfnod cynnar Price a daeth yr adeilad yn rhy fach i'r gynulleidfa. Cafodd, Carmel ei drosglwyddo i achos Saesneg ac adeiladwyd capel newydd, Calfaria gerllaw. Cafodd y capel newydd ei gynllunio gan Thomas Joseph, peiriannydd pwll glo o Hirwaun. Cost adeiladu'r capel oedd £1,400. Roedd ynddi eisteddleoedd i 840. Cafodd yr adeilad ei ymestyn ym 1859 ac adeiladwyd ysgoldy a neuadd drws nesaf i'r capel ym 1871. Cafodd y gwasanaeth cyntaf ei gynnal ar 8 Chwefror, 1852. Erbyn hyn, roedd Price wedi dod yn ffigwr blaenllaw ym mywyd cyhoeddus Aberdâr a Chymru, yn bennaf o ganlyniad i'w beirniadaeth danllyd yn erbyn Brad y Llyfrau Gleision a'r dystiolaeth a roddwyd i'r comisiynwyr a gyhoeddwyd y llyfrau gan y ficer Aberdâr, y Parch John Griffith.
Ar un adeg yn ystod gweinidogaeth Price fu gan Galfaria dros fil o aelodau, ond cafodd llawer o gannoedd ohonynt eu trosglwyddo i gapeli cangen a sefydlwyd ar anogaeth Price. Ym 1855 cafodd capel Heolyfelin ei ffurfio fel cangen o Gapel Bedyddwyr Hirwaun. Ym 1856 cafodd 91 o aelodau Calfaria eu trosglwyddo i ffurfio eglwys Saesneg Carmel, Aberdâr. Agorwyd Bethel, Abernant, ym 1857. Ym 1849 cafodd 121 o aelodau eu trosglwyddo i ffurf capel Gwawr, Aberaman. Yn 1855, cafodd 89 eu rhyddhau i sefydlu achos yn Aberpennar, ac ym 1862 cafodd 163 eu rhyddhau i gryfhau Bethel, Abernant; yn yr un flwyddyn cafodd 131 eu rhyddhau i sefydlu achos Ynyslwyd. Ym 1865 trosglwyddwyd 49 aelod i ffurfio capel Y Gadlys. Sef cyfanswm o 927 yn cael eu rhyddhau o Galfaria i ffurfio eglwysi mewn gwahanol rannau o'r cwm. Ond ceisiodd Price i sicrhau undod teulu'r Bedyddwyr yn y cwm trwy gynnal gweithgareddau megis gwasanaethau unedig i fedyddio aelodau newydd yn afon Cynon ac eisteddfodau blynyddol .
Cadwodd Calfaria ei goruchafiaeth ymhlith eglwysi Bedyddwyr y cwm er bod bri Price wedi ei danseilio braidd gan ei fethiant i gefnogi'r Parch Henry Richard yn Etholiad Cyffredinol 1868 roedd yn cefnogi ymgeisyddiaeth Richard Fothergill cafodd Richard a Fothergill ill dau eu hethol. Ym 1869 bu Price yn ymweld â'r Unol Daleithiau am gyfnod o chwe mis gyda'i ferch Emily. Roedd ei angladd ym 1888 ymysg un o'r mwyaf a welwyd yn y cwm erioed.
Wedi marwolaeth Price dderbyniodd James Griffiths, gweinidog Calfaria, Llanelli galwad unfrydol i ddod i'w olynu . Cafodd ei sefydlu yn weinidog mewn gwasanaethau arbennig a gynhaliwyd ar Ddydd Nadolig 1888.
Ym 1898 cynhaliodd Undeb Bedyddwyr Cymru ei gynhadledd flynyddol yng Nghalfaria. Ym 1903 cafodd organ newydd ei brynu ar gost o £850.
Ym 1912 ysgrifennodd Griffiths lyfr i ddathlu canmlwyddiant yr achos. Roedd nifer yr aelodau yn 537 ym 1899 gyda gostyngiad bach i 420 erbyn 1916 a 396 erbyn 1925.
Ym 1923, cafodd Griffiths ei ethol yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru.
Ym 1925 roedd rhif yr aelodaeth yn 395. Daeth gofalaeth James Griffiths i ben ym 1930. Fe'i holynwyd ef ym 1932 gan D. Herbert Davies, a fu'n gwasanaethu hyd 1947, pan dderbyniodd alwad i Benuel, Caerfyrddin. Roedd yr aelodaeth wedi gostwng i 168 erbyn 1963.
Fel cynifer o gapeli'r cymoedd bu dirywiad yn y nifer oedd yn gallu'r Gymraeg a'r niferoedd cyffredinol oedd yn mynychu llefydd o addoliad achosi dirywiad difrifol yn nifer yr aelodau. Erbyn 2003 roedd yr aelodaeth wedi gostwng i 19 gyda phresenoldeb ar gyfartaledd o chwech yng ngwasanaeth y noswaith. Wedi llawer o flynyddoedd o ddirywiad yn faint ei aelodaeth cafodd Calfaria ei gau yn 2012. Fe ymunodd yr aelodau â chapel Bethesda Abercwmboi.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Calfaria, Aberdâr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.