Tref yn Rhondda Cynon Taf, Cymru yw Aberpennar (yn wreiddiol Aberpennarth) (Saesneg: Mountain Ash).
Math | tref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Aberpennar |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6814°N 3.3792°W |
Cod OS | ST025915 |
Cod post | CF45 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Vikki Howells (Llafur) |
AS/au | Beth Winter (Llafur) |
a leolir yng Nghwm Cynon. Mae ganddi boblogaeth o 7,039. Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Cefnpennar, Cwmpennar, Darranlas, Glenboi a'r Drenewydd. Yn hanesyddol, mae'n rhan o Forgannwg.
Llifa Afon Cynon heibio'r dref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Beth Winter (Llafur).
Yn hanesyddol, cyfeiriodd yr enw Aberpennar at y fan lle rhed nant Pennar (neu Penarth yn y ffurfiau cynharaf) i Afon Cynon ar ddiwedd ei chwrs i lawr o dir uchel Cefnpennar, ac ar ochr ogleddol tro yn y afon honno. Ceir y ffurf aber pennarthe ym 1570, Aberpennarth ym 1600, a Tir Aber Penarth ym 1638. Yn ôl Gwynedd O. Pierce mae'n bosib taw ffurf amrywiol yw enw'r nant ar "pennardd", sef pentir neu gefnen i dir, yn yr achos hon tir uchel Cefnpennar, lle mae ei tharddiad. Ger y tir a elwid Aberpennar safai plasty'r teulu Bruce (o 1750) a âi dan yr enw Dyffryn, ac ar un adeg ceid Aberpennar fel enw amgen i'r plasty hefyd: Aberpennar alias Dyffryn ym 1691, a Dyffrin alias Aberpennar ym 1717.
Yn wreiddiol, enw tafarn a godwyd ar ddechrau'r 19eg ganrif mewn man ar y stryd a elwir yn Commercial Street heddiw yw enw Saesneg y dref, Mountain Ash. Nid yw'n sicr pwy a'i henwodd a phaham, ond yn ôl un ffynhonnell y tirfeddiannwr John Bruce Pryce a'i henwodd, a medd rhai taw cerddinen (yn Saesneg: mountain-ash) a safai gerllaw oedd ysbrydoliaeth yr enw. Dyddia'r enw o'r 1830au, ac ym 1852 cyfeiriodd dogfen at Mountain Ash Inn mewn pentref o ryw chwe chant o dai a oedd ar fin tyfu'n dref ddiwydiannol, ac a enwyd ar ôl y dafarn,a hynny yn is i lawr yr afon na phlasty'r Dyffryn, ac ar yr ochr orllewinol.
Ysgrifennodd Dafydd Morganwg y camgymeriad hwn yn ei Hanes Morganwg (1874): "Enw cyntefig y lle oedd Aberpenar". Roedd William Thomas (Glanffrwd), ym 1878–88, yn dal i ofidio nad oedd i'r lle "a adwaenir mwyach wrth ei enw Saesneg, Mountain Ash" enw Cymraeg. Dim ond ar droad yr 20g y trosglwyddodd yr hen enw Aberpennar o ochr arall yr afon i ddod yn enw Cymraeg safonol y dref, yn bosib adeg cynnal Eisteddfod Genedlaethol 1905 yno yn ôl Gwynedd O. Pierce.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o lefydd yng Nghymoedd De Cymru, ni ddatblygwyd y dref ryw lawer gan ddiwydiant; eithriad i hyn yw Camlas Aberdâr yn 1818 ond a lenwyd a'i addasu'n ffordd (sef Ffordd Newydd Caerdydd) yn gynnar yn 1933.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Aberpennar ym 1905 a 1946. Am wybodaeth bellach gweler:
Trefi
Aberdâr · Aberpennar · Glynrhedynog · Llantrisant · Pontypridd · Y Porth · Tonypandy · Treorci
Pentrefi
Aberaman · Abercwmboi · Abercynon · Abernant · Y Beddau · Blaenclydach · Blaencwm · Blaenllechau · Blaenrhondda · Brynna · Brynsadler · Cefn Rhigos · Cefnpennar · Cilfynydd · Coed-elái · Coed-y-cwm · Cwmaman · Cwm-bach · Cwm Clydach · Cwmdâr · Cwm-parc · Cwmpennar · Y Cymer · Dinas Rhondda · Y Ddraenen Wen · Efail Isaf · Fernhill · Ffynnon Taf · Y Gelli · Gilfach Goch · Glan-bad · Glyn-coch · Glyn-taf · Y Groes-faen · Hirwaun · Llanharan · Llanhari · Llanilltud Faerdref · Llanwynno · Llwydcoed · Llwynypïa · Y Maerdy · Meisgyn · Nantgarw · Penderyn · Pendyrus · Penrhiw-ceibr · Penrhiw-fer · Penrhys · Pentre · Pentre'r Eglwys · Pen-yr-englyn · Pen-y-graig · Pen-y-waun · Pont-y-clun · Pont-y-gwaith · Y Rhigos · Rhydyfelin · Ton Pentre · Ton-teg · Tonyrefail · Tonysguboriau · Trealaw · Trebanog · Trecynon · Trefforest · Trehafod · Treherbert · Trehopcyn · Trewiliam · Tynewydd · Wattstown · Ynys-hir · Ynysmaerdy · Ynysybŵl · Ystrad Rhondda
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Aberpennar, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.