Pentref bychan ger Pontypridd yn Rhondda Cynon Taf ydy Pentre'r Eglwys (Saesneg: Church Village).
Mae'n rhan o Gymuned Llanilltud Faerdre. Yn 2011, roedd 2,501 (17.1%) o boblogaeth (3 oed a throsodd) y Gymuned yn gallu siarad Cymraeg.
Math | pentref |
---|---|
Poblogaeth | 5,021 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanilltud Faerdref |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5699°N 3.3216°W |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mick Antoniw (Llafur) |
AS/au | Alex Davies-Jones (Llafur) |
Aiff hanes y gymuned yn ôl i ganol y 19g pan nad oedd ond cartref saer coed a dau adeilad neu dŷ gwag yno, yn ôl cyfrifiad 1841. Tyfodd y pentref yn ystod y deng mlynedd canlynol ond eto, gan mai bach iawn oedd, dan enw pentref cyfagos Cross Inn y'i cofnodwyd yng nghyfrifiad 1851, pan oedd 91 o bobl yn byw yno mewn 14 cartref.
Cynhaliwyd ysgol mewn stablau ger fferm Tir Bach cyn symyd i ystafell hir y tu ôl i Tafarn y Groes yng nghanol y pentref. Roedd yr ystafell hefyd yn gartref i'r Bedyddwyr Cymreig. Adeiladwyd Capel yn ddiweddarach ym 1854 tua milltir i ffwrdd yng Ngwaun y Celyn. Erbyn cyfrifiad 1861, roedd tuag 11 o bobl yn byw mewn 22 cartref. Erbyn heddiw mae Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg yn y pentref. Agorwyd Llyfrgell yno ar 1 Ebrill 1965; symudwyd hi ynghyd ag Ysgol Gyfun Rhydfelen i adeilad newydd ar hen safle'r ysgol gynradd ym Mhentre'r Eglwys ac agorwyd hi ar 4 Medi 2006. Mae cynlluniau i adeiladu miloedd o dai newydd yn y pentref. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer ffordd-osgoi Penter'r Eglwys, mae hyn wedi bod ar y gweill ers 2006 ond nid oes gwaith wedi dechrau esioes (2007).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mick Antoniw (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alex Davies-Jones (Llafur).
Trefi
Aberdâr · Aberpennar · Glynrhedynog · Llantrisant · Pontypridd · Y Porth · Tonypandy · Treorci
Pentrefi
Aberaman · Abercwmboi · Abercynon · Abernant · Y Beddau · Blaenclydach · Blaencwm · Blaenllechau · Blaenrhondda · Brynna · Brynsadler · Cefn Rhigos · Cefnpennar · Cilfynydd · Coed-elái · Coed-y-cwm · Cwmaman · Cwm-bach · Cwm Clydach · Cwmdâr · Cwm-parc · Cwmpennar · Y Cymer · Dinas Rhondda · Y Ddraenen Wen · Efail Isaf · Fernhill · Ffynnon Taf · Y Gelli · Gilfach Goch · Glan-bad · Glyn-coch · Glyn-taf · Y Groes-faen · Hirwaun · Llanharan · Llanhari · Llanilltud Faerdref · Llanwynno · Llwydcoed · Llwynypïa · Y Maerdy · Meisgyn · Nantgarw · Penderyn · Pendyrus · Penrhiw-ceibr · Penrhiw-fer · Penrhys · Pentre · Pentre'r Eglwys · Pen-yr-englyn · Pen-y-graig · Pen-y-waun · Pont-y-clun · Pont-y-gwaith · Y Rhigos · Rhydyfelin · Ton Pentre · Ton-teg · Tonyrefail · Tonysguboriau · Trealaw · Trebanog · Trecynon · Trefforest · Trehafod · Treherbert · Trehopcyn · Trewiliam · Tynewydd · Wattstown · Ynys-hir · Ynysmaerdy · Ynysybŵl · Ystrad Rhondda
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pentre'r Eglwys, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.