Pontypridd: Pentref yn Rhondda Cynon Taf

Tref a chymuned yn Rhondda Cynon Taf, de Cymru, yw Pontypridd.

Mae wedi ei lleoli tua deuddeg milltir i’r gogledd o Gaerdydd, a chanddi boblogaeth o tua 33,000. Mae Llundain yn 224.1 km.

Pontypridd
Pontypridd: Y Bont, Diwydiant, Clwb y Bont
Mathtref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTref Pontypridd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Taf Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5967°N 3.3368°W Edit this on Wikidata
Cod OSST075895 Edit this on Wikidata
Cod postCF37 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMick Antoniw (Llafur)
AS/auAlex Davies-Jones (Llafur)

Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 13.9% o boblogaeth Pontypridd yn medru’r Gymraeg, 21.3% ag un neu ragor o fedrau yn Gymraeg, a thua chwarter plant oedran addysg gynradd y dref yn mynychu ysgolion Cymraeg.

Deillia enw’r dref o 'Pont y tŷ pridd'. Yn ôl hanes lleol, safai tŷ traddodiadol wedi ei wneud o bren, gwrysg a phridd ar lan Afon Taf, a dyma’r enw a roddwyd i’r nifer o bontydd a godwyd dros yr afon (gweler Ifor Williams, Enwau Lleoedd, tud. 56). Erbyn heddiw, Ponty yw’r enw a ddefnyddir gan drigolion yr ardal wrth gyfeirio at y dref ar lafar. Mae hi hefyd yn efeilldref gyda Nürtingen, yn yr Almaen.

Y Bont

Pontypridd: Y Bont, Diwydiant, Clwb y Bont 
Pontypridd: yr Hen Bont

Honnir i bont Pontypridd fod ymhlith y rhai enwocaf yng Nghymru, ac yn 2006, yr oedd hi’n dathlu 250 o flynyddoedd ers ei chodi. Pan y’i codwyd hi, hon oedd y bont rhychwant sengl hiraf yn y byd. Adeiladwyd y bont gan ŵr o’r enw William Edwards (1719-1789) a oedd yn weinidog Anghydffurfiol a saer maen hunan-ddysgedig.

Pont Pontypridd oedd ei greadigaeth fwyaf poblogaidd, a adeiladwyd rhwng 1746 a 1754. Roedd hi’n bont mor hir (yn pontio 140 troedfedd) nes iddi gymryd tair neu bedair ymgais i’w chodi yn llwyddiannus. Yn ôl rhai, dyma oedd tarddiad y dywediad “Tri chynnig i Gymro”.

Golchwyd y gyntaf, a wnaed o bren, i ffwrdd gan lifogydd, a chwympodd yr ail, a’r drydedd, a wnaed o gerrig, wrth eu hadeiladu oherwydd y pwysau. Cafodd y bont olaf ei gwneud o gerrig yn ogystal, ond y tro hwn yr oedd hi’n llawer ysgafnach. Ynddi roedd chwe thwll mawr, tri bob ochr gyda diamedr o 9, 6 a 3 troedfedd. Cafodd William Edwards dâl o £500 ar yr amod y byddai’r bont yn sefyll am saith mlynedd.

Pontypridd: Y Bont, Diwydiant, Clwb y Bont 
William Edwards, yr Adeiladydd

Diwydiant

Adeiladwyd camlas Morgannwg ar ddiwedd y 18g, gan gyrraedd Pontypridd yn 1794. Dyma oedd dechrau datblygiad diwydiannol Pontypridd. Cafwyd twf aruthrol ym Mhontypridd yn sgil twf diwydiannau Cymoedd Rhondda. Pontypridd, wrth aber afon Rhondda, a ddaeth yn brif dref farchnad yr ardal. Prif ffatri’r dref oedd gwaith cadwynau Brown Lenox, a ddechreuwyd yn 1816.

Clwb y Bont

Mae Clwb y Bont yn glwb cymdeithasol ar ffurf tafarn a gafodd ei sefydlu yn 1983 ac wedi ei leoli ar lan Afon Taf. Sefydlwyd y clwb i hybu Cymreictod yr ardal ydoedd, gan roi cyfle i siaradwyr Cymraeg yr ardal gwrdd â’i gilydd. Ceir llawer o fandiau yn chwarae yno ar benwythnosau. Mae ystafell gyfarfod uwchben y clwb lle cynhelir gwersi Cymraeg a dosbarthiadau llên.

Corau Cymraeg yr Ardal

Côr Godre’r Garth

Mae Côr Godre'r Garth yn gôr cymysg gyda 60 o aelodau. Mae'r côr yn ymarfer yn Efail Isaf a daw'r aelodau o ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, y Rhondda a Chwm Rhymni yn ogystal â Thaf Elái.

Ffurfiwyd y côr yn 1974 gyda'r nod o hybu Cymreictod mewn ardal oedd, yr adeg honno, ar fin colli'r iaith yn llwyr. Denwyd nifer o ddysgwyr i rengoedd y Côr a bu'n fodd i nifer i loywi eu hiaith.

Eisteddfodau

Mae Pontypridd wedi cynnal dau Eisteddfod, yn 1893 ac mi fydd yn cynnal Eisteddfod 2024 hefyd.

Cangen Merched y Wawr

Sefydlwyd cangen Pontypridd o Ferched y Wawr yn y flwyddyn 2008. Rhyw 20 o aelodau sydd i'r gangen.

Preswylwyr enwog

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pontypridd (pob oed) (32,694)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pontypridd) (3,978)
  
12.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pontypridd) (26754)
  
81.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pontypridd) (5,478)
  
40.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ym 1893. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldref

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Pontypridd Y BontPontypridd DiwydiantPontypridd Clwb y BontPontypridd Corau Cymraeg yr ArdalPontypridd EisteddfodauPontypridd Cangen Merched y WawrPontypridd Preswylwyr enwogPontypridd Cyfrifiad 2011Pontypridd Eisteddfod GenedlaetholPontypridd GefeilldrefPontypridd Gweler hefydPontypridd CyfeiriadauPontypriddCaerdyddCymuned (Cymru)De CymruLlundainRhondda Cynon Taf

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Caer bentirIago II, brenin yr AlbanSex and The Single GirlCyfathrach Rywiol FronnolBlwyddyn naidCeltaiddActorIseldiregIndiaNeonstadtSgethrogFandaliaidAmaethyddiaethCwpan y Byd Pêl-droed 2014Storïau TramorEglwys-bachIkurrinaHob y Deri Dando (rhaglen)20gBrimonidinB. T. HopkinsC.P.D. Dinas AbertaweIago fab SebedeusDave SnowdenR.O.T.O.R.Llyn CelynNorth of Hudson BayTywysog CymruY Derwyddon (band)RMS TitanicSystem weithreduBreuddwyd Macsen WledigWhatsAppCaerfyrddinFacebookGlasgwm, PowysLa ragazza nella nebbiCynnwys rhyddAled a Reg (deuawd)Fideo ar alwT. H. Parry-WilliamsBig BoobsHogia LlandegaiSidan (band)Sonu Ke Titu Ki SweetyAstreonamGwainYmdeithgan yr UrddGwlad PwylYmerodraethHermitage, BerkshireCyfeiriad IPCaeredinYsgol SulCapel y NantLlyn AlawYsgrifau BeirniadolCyflogGwasanaeth cyhoeddus (cwmni)Y DiliauHentai KamenEfrogBarbie in 'A Christmas Carol'BeijingWiciHanes diwylliannolDinasCyfieithiadau o'r GymraegDaearegSupport Your Local Sheriff!Stiller Sommer🡆 More