Grŵp ethnig Semitaidd yw'r Asyriaid sydd yn frodorol i'r Dwyrain Canol.
Trigasant hyd at 1 miliwn ohonynt yn eu mamwlad, yn ucheldiroedd gogledd Irac, gogledd Iran, de-ddwyrain Twrci, a gogledd-ddwyrain Syria. Mae rhyw 1–3 miliwn o Asyriaid, neu bobl o dras Asyriaidd, ar wasgar ar draws y byd. Maent yn Gristnogion sydd yn dilyn y ddefod Syrieg, ac yn siarad tafodieithoedd Aramaeg.
Plentyn ifanc Syrieg / Asyriaidd wedi'i wisgo mewn dillad traddodiadol | |
Enghraifft o'r canlynol | Grŵp ethnogrefyddol |
---|---|
Math | Semitiaid |
Mamiaith | Chaldean neo-aramaic, northeastern neo-aramaic, acadeg |
Poblogaeth | 1,230,000 |
Crefydd | Cristnogaeth, eglwys asyriaidd y dwyrain, yr eglwys gatholig galdeaidd, yr eglwys uniongred syrieg, eglwys uniongred rwsia |
Rhan o | Semitiaid |
Gwladwriaeth | Irac, Unol Daleithiau America, Syria, Sweden, Iran, Twrci, Awstralia, Rwsia, Armenia, Canada, Georgia, Wcráin, Gwlad Groeg, Aserbaijan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Maent yn disgyn o'r hen Asyriaid a fu'n boblogaeth Mesopotamia, Babilonia, ac Ymerodraeth Asyria. Cawsant eu troi'n Gristnogion yn y 4g, a throdd rhai ohonynt yn Nestoriaid yn sgil y sgism yn y 5g. Cafodd nifer ohonynt eu lladd yng ngoresgyniadau'r Arabiaid yn y 7g, y Mongolwyr yn y 13g, a'r Tyrciaid yn y 14g. Yn sgil gorchfygiad Ymerodraeth yr Otomaniaid yn 1638, unodd y cymunedau Asyriaidd mewn ymgais i gadw eu ffydd. Yn y cyfnod 1914–1924, bu farw cannoedd o filoedd o Asyriaid mewn hil-laddiad gan yr Otomaniaid a'r Persiaid.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Asyriaid, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.