Ardal o amgylch rhan uchaf Afon Tigris yn yr hyn sydd heddiw yn Irac oedd Assyria (Acadeg: Aššur).
Defnyddir yr enw hefyd am y wladwriaeth a sefydlwyd yn yr ardal yma, a dyfodd yn ymerodraeth. Daw'r enw o enw'r brifddinas wreiddiol, Assur.
Enghraifft o'r canlynol | gwlad ar un adeg |
---|---|
Daeth i ben | 609 CC |
Dechrau/Sefydlu | 2025 (yn y Calendr Iwliaidd) CC |
Rhagflaenydd | Q2647882 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ystod y cyfnod cynnar, o'r 20g CC hyd y 15g CC, roedd Assyria yn rheoli'r rhan fwyaf o ran uchaf Mesopotamia. O'r cyfnod yma hyd y 10g CC, lleihaodd ei grym, cyn iddi ennill grym eto trwy orchfygu ei chymdogion. Ymestynnodd ei dylanwad ymhellach dan Ymerodraeth Newydd Assyria, 911 CC hyd 612 CC. Dan ei brenin Ashurbanipal, a deyrnasodd o 668 CC hyd 627 CC, roedd yr ymerodraeth yn ymestyn cyn belled a'r Aifft. Yn ddiweddarach, collwyd yr ymerodraeth yn dilyn goresgyniadau Babilon a Persia.
Heblaw Assur, roedd ei dinasoedd pwysig yn cynnwys Kalhu (Nimrud) a Ninefeh.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Assyria, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.