Afon fawr yn ne-orllewin Asia yw Afon Tigris (Arabeg: Dijah).
Mae'n codi o lyn ym mynyddoedd Kurdistan yn ne-ddwyrain Twrci ac yn llifo i'r de-ddwyrain trwy ddinas Diyarbakir, ac yna ar hyd y ffîn rhwng Twrci a Syria ac wedyn i Irac. Ger Basra, tua 190 km i'r gogledd o Gwlff Persia mae'n ymuno ag Afon Ewffrates, ar ôl llifo ar gwrs cyfochrog i'r dwyrain o'r afon honno, i ffurfio'r cwrs dŵr a enwir Shatt al-Arab. Ei hyd yw 1900 km (1180 milltir).
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Irac, Syria, Twrci |
Cyfesurynnau | 38.5032°N 39.5058°E, 31.0043°N 47.4421°E |
Tarddiad | Llyn Hazar |
Aber | Shatt al-Arab |
Llednentydd | Little Zab, Great Zab, Afon Botan, Khabur, 'Adhaim, Q21209945, Q21210285, Q21210929, Afon Batman, Afon Diyala, Afon Karkheh, Gevi River, Afon Khasa, Afon Khosr, Zab, Afon Sirwan, Q21695712, Q21199148, Q21695258, Q21210039, Q16371554, Godar Khosh River, Doiraj River |
Dalgylch | 375,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,850 cilometr |
Arllwysiad | 1,014 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Llyn Hazar |
Yn y diriogaeth a elwir Irac heddiw roedd afonydd Tigris ac Ewffrates yn ffurfio 'Y wlad rwng y Ddwy Afon', sef Mesopotamia, lle blodeuai rhai o wareiddiaid pwysicaf yr Henfyd, gan gynnwys Assyria, Acad, Swmer a Babilonia.
Credir mai Afon Tigris yw Afon Hidecel y cyfeirir ati yn Llyfr Genesis; un o Bedair Afon Paradwys yn y traddodiad Beiblaidd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Afon Tigris, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.