Dinas yn Irac yw Sāmarrā (Arabeg: سامَرّاء).
Saif ar lan ddwyreiniol afon Tigris yn nhalaith Salah ad-Din, 125 km (78 milltir) i'r gogledd o ddinas Baghdad, yng nghanolbarth y wlad. Fe'i hystyrir yn ddinas sanctaidd gan Foslemiaid Shia. Yn 2003, roedd tua 348,700 o bobl yn nyw yno. Yn 2007, cyhoeddodd UNESCO Samarra yn Safle Treftadaeth y Byd.
Mosg Mawr Samarra | |
Math | safle archaeolegol, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 140,400 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Saladin Governorate |
Gwlad | Irac |
Arwynebedd | 150.58 km², 15,058 ha, 31,414 ha |
Uwch y môr | 80 metr |
Cyfesurynnau | 34.1959°N 43.88568°E |
Cod post | 34010 |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Mae Samarra yn hen iawn. Ceir olion o bobl y Dywilliant Samarraidd sy'n dyddio o'r Chalcolithig (tua 5500–4800 CC) yn y rhan yma o ardal Mesopotamia. Cyfeirir at ddinas Sur-marrati yn cael ei hailsefydku gan y brenin Sennacherib yn 690 CC.
Yn yr Oesoedd Canol Cynnar, Samarra oedd prifddinas Califfiaeth yr Abassiaid. Symudodd y Califf Al-Mu'tasim ei lys yno yn 836. Codwyd Mosg Mawr Samarra gan ei olynydd. Ganwyd y bardd Arabeg clasurol Abdullah ibn al-Mu'tazz yn Samarra yn 861.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Samarra, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.