Cefnder a mab yng nghyfraith Muhammad, proffwyd olaf Islam, oedd Alī ibn Abī Ṭālib (Arabeg: علي ابن أبي طالب; ynganiad: ); 15 Medi 601 - 29 Ionawr 661).
Ef oedd y pedwerydd califf; rheolodd ei bobl o 656 i 661, ond fe'i hystyrir fel olynydd uniongyrchol y Proffwyd Muhammad gan y Mwslimiaid Shia.
Ali ibn Abi Talib | |
---|---|
Ganwyd | c. 600 Mecca |
Bu farw | 29 Ionawr 661 Kufa |
Dinasyddiaeth | Rashidun Caliphate |
Galwedigaeth | gwladweinydd, qadi, Islamic jurist, muhaddith, mufassir, barnwr, bardd, Califf |
Swydd | Rashidun, The Twelve Imams |
Tad | Abu Talib Ibn ‘abd Al-Muttalib |
Mam | Fatimah bint Asad |
Priod | Fatima, Umm ul-Banin, Umamah bint Zainab, Asma bint Umays, Khawla al-Hanafiyya, Q87345984, Q94573739, Q61358382 |
Plant | Hassan Ibn Ali, Husayn ibn Ali, Abbas ibn Ali, Jafar ibn Ali, Muhammad ibn al-Hanafiyyah, Zaynab bint Ali, Umm Kulthum bint Ali ibn Abi Talib, Hilal ibn Ali, Uthman ibn Ali, Umar ibn Alí, Muhsin ibn Ali, Abdullah ibn Ali ibn Abi Talib, Abu Bakr ibn Ali, Ubaidillah bin Ali, Khadija bint Ali, Fatima bint Ali, Ruqayya bint Ali, Q93278653 |
Perthnasau | Muhammad |
Llinach | Banu Hashim |
llofnod | |
Ganed ef gyda'r enwau Abu Talib a Fatimah bint Asad. Ef yw'r unig berson i'w eni yng nhysegr sanctaidd y Kaaba (Arabeg: كَـعـبَـة), ym Mecca, y lle mwyaf sanctaidd yn Islam, yn ôl llawer o Islamaidd clasurol, yn enwedig rhai Shia. Ali oedd y gwryw cyntaf a dderbyniodd Islam, ac yn ôl rhai awduron y Mwslim cyntaf.
Wedi iddo symud i Medina, priododd ferch Muhammad, sef Fatimah. Penodwyd ef yn galiff gan gyfeillion Muhammad (Sahaba) yn 656, gan olynu Uthman ibn Affan i hwnnw gael ei lofruddio. Amddiffynodd Muhammad drwy ei oes, a chymrodd ran mewn sawl brwydr. Yn ystod teyrnasiad Ali yr ymladdwyd y Fitna Cyntaf (yr hyn a elwir yn ryfel cartref). Yn 661, ymosodwyd arno ac fe'i llofruddiwyd deuddydd yn ddiweddarach gan Kharijite tra roedd yn gweddio.
Mae Ali'n allweddol bwysig i'r Shias a'r Sunnis, yn wleidyddol ac yn grefyddol. Cred y ddau enwad fod Ali yn Fwslim i'r carn a'i fod yn bleidiol iawn i Islamiaeth; ceir hefyd mannau lle mae'r ddwy ochr yn anghytuno yn ei gylch.
Cred y Sunnis mai Ali yw'r pedwerydd califf, a'r olaf, ond cred y Mwslimiaid Shia yw mai ef yw'r Imam cyntaf ar ôl Muhammad, oherwydd eu dehongliad o'i bregeth yn Ghadir Khumm. Mae Mwslimiaid Shia hefyd yn credu bod Ali a'r Shia Imams eraill (y mae pob un ohonynt yn aelodau o'r Bayṫ Muhammad) yn ddilynwyr cywir i Muhammad. Yr anghytundeb hwn oedd y maen tramgwydd a rannodd yr Ummah (Arabeg: أمة, Cymuned Mwslimaidd) i'r canghennau Shia a Sunni.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ali ibn Abi Talib, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.