Mae Y Tadau Methodistaidd: eu llafur a'u llwyddiant gyda gwaith yr Efengyl yn Nghymru, Trefydd Lloegr, America ac Awstralia: ynghyd a nifer mawr o ddarluniau o bersonau a lleoedd nodedig yn llyfr mewn dwy gyfrol gan y Parch John Morgan Jones, Caerdydd a William Morgan, Dowlais.
Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf ym 1895 a'r ail gyfrol ym 1897 gan wasg Lewis Evans, Abertawe.
Prif gynnwys y llyfr yw bywgraffiadau am y Cymry bu'n fwyaf dylanwadol wrth sefydlu enwad Y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys penodau am gefndir a phrif ddigwyddiadau yn hanes cynnar yr enwad. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.
Mae'r gyfrol gyntaf yn agor gyda phennod am sefyllfa foesol Cymru adeg cychwyn Methodistiaeth. Mae'r ail bennod yn rhoi bywgraffiad o Griffith Jones, Llanddowror a'i waith pwysig gyda'r ysgolion cylchynol ac argraffu Beiblau a llyfrau crefyddol fforddiadwy i'r werin. Mae'r drydedd bennod yn sôn am Y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr, gan nodi mae nid rhywbeth a ddeilliodd yn uniongyrchol o Loegr yw Methodistiaeth Cymru. Mae'r bennod yn nodi bod Howell Harris a Daniel Rowland, Llangeitho wedi bod yn efengylu yng Nghymru dwy flynedd cyn sefydlu'r Clwb Sanctaidd yn Rhydychen gan Charles Wesley, George Whitefìeld a'r Cymro John Gambold.
Wedi pennod yn rhoi bywgraffiad Daniel Rowlands ddaw nifer o benodau yn ymdrin â bywyd a gwaith Howell Harris. Mae'r penodau hyn yn dibynnu yn drwm ar ddyddiaduron Harris a chanfuwyd gan John Morgan Jones yng Ngholeg Trefeca wedi iddynt fod ar goll neu'n anghofiedig am ddegawdau. Yng nghanol y penodau am Harris ceir hefyd penodau yn trafod twf yr achos yn ystod ei wyth mlynedd gyntaf, sefydlu'r Gymdeithasfa (corff rheoli) a phennod yn trafod cynghorwyr cynnar yr enwad:
Mae penodau eraill yn rhoi bywgraffiadau William Williams, Pantycelyn; Peter Williams; David Jones, Llan-gan; William Davies, Castell-nedd; Dafydd Morris, Twrgwyn a William Llwyd o Gaio. Mae pennod hefyd am yr ymraniad yn yr enwad rhwng cefnogwyr Howell Harris a chefnogwyr Daniel Rowlands
Mae cyfrol dau yn agor gyda hanes cychwyniad Methodistiaeth yng Ngwahanol rannau o Wynedd (h.y. gogledd Cymru). Mae'r gyfrol yn cynnwys penodau bywgraffiadol am:
a thair pennod yn trafod bywyd a gwaith Thomas Charles o'r Bala. Fel rhan o'r ymdriniaeth a Thomas Charles ceir pennod yn ymdrin â'r penderfyniad gan y Methodistiaid i dorri ffwrdd o fod yn gymdeithas grefyddol o fewn Eglwys Loegr. Wedyn ddaw tair pennod yn trafod yr offeiriaid Methodistaidd a ymadawodd ag Eglwys Loegr a'r rhai a arhosodd yn eu hen eglwys.
Mae'r llyfr yn dod i ben gyda chwaneg o bennod fywgraffiadol am
Yn ogystal â hanes yr enwad a bywgraffiadau ei sylfaenwyr mae'r llyfr yn frith o ddarluniau a ffotograffau. Ceir lluniau o wrthrychau'r erthyglau, lluniau o'u cartrefi a'u capeli a lluniau o'u beddau. Ceir hefyd lluniau o lefydd o bwys yn hanes datblygiad Methodistiaeth Gymreig. Dyma ddetholiad o rai ohonynt.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Tadau Methodistaidd (llyfr), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.