Bwyd Wy

Mae bodau dynol wedi bwyta wyau a ddodir gan nifer o rywogaethau, gan gynnwys adar, ymlusgiaid, amffibiaid, a physgod, am filoedd o flynyddoedd.

Yr wy mwyaf poblogaidd yng nghoginiaeth o gwmpas y byd o bell ffordd yw wy'r iâr ddof.

Bwyd Wy
Wy iâr ddof ar y chwith a dau wy sofliar ar y dde

Seigiau wyau

Traddodiadau

Roedd mynd i glapio cyn y Pasg yn arfer poblogaidd gan blant Sir Fôn, flynyddoedd yn ôl. Fel rheol roedd y plant yn cael awr neu ddwy o’r ysgol neu ddiwrnod neu ddau cyn cau’r ysgol er mwyn cael mynd i gasglu wyau ieir o gwmpas ffermydd a thyddynnod yr ardal. Defnyddid darn o bren gyda dau ddarn bach bob ochor er mwyn creu’r ‘clapar’ a phiser bach neu fasgiad gyda gwellt neu laswellt at waelod y fasgiad er mwyn cael casglu’r wyau ac i wneud yn siŵr nad oedd yr wyau yn cael eu difetha ar y ffordd.

Arferai'r plant fynd o amgylch ffermydd yr ardal gan guro drysau ac adrodd rhigwm wrth ysgwyd y clapiwr. Mae Clap, clap, gofyn ŵy, Hogia bach ar y plwy, Plîs ga’i ŵy? yn enghraifft o rigwm maen nhw’n parhau i ddefnyddio hyd heddiw.

Yn ôl yr arferiad byddai’r drws yn cael ei agor a’r person tu mewn i’r tŷ yn gofyn ‘A phlant bach pwy ’dach chi?’ Ar ôl cael ateb, byddai perchennog y tŷ yn rhoi wy yr un i’r plant.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae yna adfywiad wedi bod o ganlyniad i waith Menter Iaith Môn ar yr Ynys. Cynhelir gweithgareddau clapio wyau yn flynyddol ym mhentrefi Llynfaes, Talwrn, Rhosybol a Charreglefn. Wyau siocled yw’r arferiad erbyn hyn, nid wyau ieir.

Cyfeiriadau

Tags:

AderynAmffibiadCoginioIâr (ddof)PysgodynYmlusgiad

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

GwladFack Ju Göhte 3CyhoeddfaAwdurdodLlandudnoThe Merry CircusPenelope LivelyRhyw rhefrolYmlusgiadCyfraith tlodiWelsh TeldiscHarold LloydPort TalbotWhatsAppJess DaviesShowdown in Little TokyoWrecsamWikipediaSophie WarnyRhestr o ddirwasgiadau yng Ngwledydd PrydainXx2024L'état Sauvage11 TachweddJohn F. KennedyLliwSY rhyngrwydCwnstabliaeth Frenhinol IwerddonCarcharor rhyfelFfraincDisgyrchiantY CeltiaidLlywelyn ap GruffuddDyddiaduron teulu Thomas Jones, Cwningar, NiwbwrchEtholiad nesaf Senedd CymrumarchnataXHamsterSaltneyBroughton, Swydd NorthamptonPidynDoreen LewisOriel Genedlaethol (Llundain)RSSMorlo YsgithrogGorllewin SussexCytundeb KyotoY FfindirY Chwyldro Diwydiannol yng NghymruSiot dwad wynebYsgol Cylch y Garn, LlanrhuddladCyfalafiaethRichard Wyn JonesGertrud ZuelzerCymruPobol y CwmOld Henry2009Yws GwyneddTajicistanBugbrookeIndiaSaratov🡆 More