Tomograffeg Gyfrifiadurol

Dull o delweddu meddygollweddu meddygol lle gwneir delweddau o'r corff yn gyfrifiadurol gan ddefnyddio pelydrau-x yw tomograffeg gyfrifiadurol a elwir hefyd yn sganio CT neu sganio CAT.

Tomograffeg gyfrifiadurol
Tomograffeg Gyfrifiadurol
Enghraifft o'r canlynolmath o brawf meddygol, delweddu meddygol Edit this on Wikidata
Mathdelweddu meddygol, tomography Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnyddir tomogramau, sef y delweddau a gynhyrchir gan sganiau CT, gan feddygon i wneud diagnosis o gyflwr meddygol cleifion. Maent er enghraifft yn ddefnyddiol wrth wneud diagnosisau o enseffalitis a strôc.

Proses

Tomograffeg Gyfrifiadurol 
Claf yn derbyn sgan CT

Mae sganiwr CT yn allyrru cyfres o belydrau-x cul wrth iddo symud drwy arc i gynhyrchu delwedd fanwl o'r corff mewn haenau sydd yn fanylach na phelydr-x unigol. Gall y canfodydd pelydr-x y tu mewn i sganiwr CT gweld cannoedd o wahanol lefelau o ddwysedd, gan gynnwys meinweoedd y tu mewn i organau solet megis yr afu, ac anfonir yr wybodaeth hon at gyfrifiadur i adeiladu delwedd drawstoriadol o gorff y claf.

I dderbyn sgan CT, gorwedda'r claf ar wely symudol y tu mewn i'r peiriant sganio. Wedi i bob pelydr-x gael ei chwblháu, bydd y gwely yn symud ymlaen ychydig. Gofynnir i'r claf orwedd yn llonydd iawn tra bydd pob sgan yn cael ei gymryd er mwyn osgoi niwlo'r delweddau. Gan fod cymaint o sganiau yn cael eu gwneud mae'n bosib i'r weithdrefn gyfan gymryd hyd at 30 munud. Os yw'r claf yn teimlo'n bryderus mae'n bosib y caiff dawelydd.

Gan ddibynnu ar y rhan o'r corff sy'n cael ei harchwilio, gall lliwur gwrthgyferbynnu gael ei ddefnyddio i wneud i rai meinweoedd ymddangos yn fwy clir o dan belydr-x. Defnyddiwr ar gyfer sganiau'r ymennydd i amlygu tiwmorau a sganiau'r frest i alluogi meddygon ddarganfod a oes modd tynnu tiwmor drwy lawdriniaeth neu beidio, ac yn achos sganiau'r abdomen gall defnyddio uwd bariwm fel cyfrwng gwrthgyferbynnu sydd yn ymddangos yn wyn ar y sganiau wrth iddo symud drwy'r llwybr treulio.

Diagnosteg

Mae sganiau CT o ddefnydd diagnostig yn enwedig o ran y pen a'r abdomen. Defnyddir hwy i gynllunio trefniadau triniaeth radiotherapi, i asesu clefydau fasgwlaidd, i sgrinio am glefyd y galon a'r hasesu, i asesu anafiadau a chlefydau'r esgyrn yn enwedig yr asgwrn cefn, i gael gwybod dwysedd esgyrn wrth archwilio osteoporosis, ac i arwain gweithdrefnau biopsi ar gyfer tynnu samplau o feinwe.

Pen

Tomograffeg Gyfrifiadurol 
Sgan CT o ymennydd gydag hydroceffalws

Mae sganiau CT ar y pen yn ffordd effeithiol o archwilio'r pen a'r ymennydd am diwmorau tybiedig, gwaedu, a rhydwelïau wedi chwyddo. Maent hefyd o ddiben ar gyfer archwilio'r ymennydd yn dilyn strôc. Defnyddir sgan CT ynghŷd â sgan MRI i wneud diagnosis o enseffalitis gan eu bod yn dangos mannau o chwyddo ac edema (dropsi) yn yr ymennydd, sydd o gymorth wrth wahaniaethu rhwng enseffalitis ac afiechydon eraill megis tiwmor neu strôc.

Abdomen

Defnyddir sganiau CT abdomenol i ddod o hyd i diwmorau, i wneud diagnosis o gyflyrau lle bydd yr organau mewnol yn chwyddo neu'n llidus, ac i ddatgelu rhwygiadau'r ddueg, yr arennau neu'r afu, fel y gallant ddigwydd mewn damweiniau traffig ffordd difrifol.

Risgiau

Gweithdrefn ddi-boen yw sgan CT ac yn gyffredinol fe'i ystyrir yn ddiogel iawn. Mae'n broses gyflym sydd yn dileu'r angen am lawdriniaeth fewnwthiol. Ond mae sganiau CT yn golygu amlygiad i ymbelydredd ar ffurf pelydrau-x, ac er cedwir lefel yr ymbelydredd a ddefnyddir i isafbwynt i atal niwed i gelloedd y corff, mae'r amlygiad i ymbelydredd yn dibynnu ar nifer y delweddau sydd angen eu cymryd. Ni wneir sganiau CT ar fenywod beichiog gan fod ychydig o risg y gallai'r pelydrau-x achosi annormaledd yn yr embryo/ffetws. Mae'n bosib i ïodin, sydd yn aml yn sylwedd mewn y lliwur gwrthgyferbynnu a ddefnyddir mewn sganiau CT, achosi adwaith alergaidd mewn rhai pobl. Oherwydd y risgiau uchod fe ofynnir i gleifion cyn derbyn sgan CT os ydynt yn credu y gallent fod yn feichiog, neu os oes unrhyw alergeddau ganddynt. Yn achlysurol iawn gall y lliwur achosi rhywfaint o niwed i'r arennau mewn pobl sydd eisoes â phroblemau'r arennau. Cynghorir i famau sy'n bwydo ar y fron aros am 24 awr yn dilyn pigiad y gwrthgyferbyniad cyn ailddechrau bwydo ar y fron.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Tomograffeg Gyfrifiadurol ProsesTomograffeg Gyfrifiadurol DiagnostegTomograffeg Gyfrifiadurol RisgiauTomograffeg Gyfrifiadurol CyfeiriadauTomograffeg Gyfrifiadurol Dolenni allanolTomograffeg GyfrifiadurolCorffCyfrifiadurPelydr-x

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

The DepartedS4CCeredigionAfon ClwydEleri MorganLlygreddY CwiltiaidMET-ArtAneurin Bevan1977IaithPisoElectronegAnadluInterstellarY Rhyfel Byd CyntafCymraegWicipedia CymraegCyfathrach rywiolAfon DyfiVerona, PennsylvaniaAfon HafreniogaHawlfraintMacOSNargisFaith RinggoldYnniAfon CleddauGundermannArfon WynHafanIn My Skin (cyfres deledu)Carles PuigdemontGwobr Ffiseg NobelAstwriegLlyfrgell y GyngresGina GersonAdolf HitlerVin Diesel9 HydrefEwropCalsugnoRhestr o safleoedd ioga14 ChwefrorY RhegiadurDriggAfon TaweAfon GlaslynChwyddiantDeddf yr Iaith Gymraeg 1967System weithreduAfon Taf (Sir Gaerfyrddin)BwcaréstYr Ail Ryfel BydAfon YstwythHydrefYsgol Gyfun Gymunedol PenweddigY Mynydd BychanCyfarwyddwr ffilmXXXY (ffilm)Siôr (sant)10fed ganrifDydd IauYr wyddor LadinHywel Hughes (Bogotá)Gorllewin Ewrop🡆 More