Achosir tiwmor yr ymennydd gan bresenoldeb celloedd annormal yn yr ymennydd.
Ceir ddau brif fath o diwmor: tiwmor maleisus neu ganseraidd a thiwmor diniwed. Gellir rhannu tiwmorau canseraidd yn ddau grŵp sef tiwmorau sylfaenol sy'n dechrau o fewn yr ymennydd, a thiwmorau eilaidd sydd wedi lledaenu o rywle arall, a elwir yn diwmorau metastasis yr ymennydd. Gall pob math o diwmorau'r ymennydd gynhyrchu symptomau ac maent yn amrywio a'n ddibynnol ar y rhan o'r ymennydd ag effeithiwyd. Ymhlith y symptomau posib y mae cur pen, trawiadau, problemau gweld, chwydu ac effeithiau meddyliol. Mae cur pennau fel arfer ar eu gwaethaf yn y bore ac yn gwella wedi i rywun chwydu. Gall problemau mwy penodol gynnwys anawsterau wrth gerdded, siarad a synhwyro'n gyffredinol. Wrth i'r clefyd ddatblygu mae dioddefwr yn medru colli ymwybyddiaeth.
Math | neoplasm y brif system nerfol, intracranial tumor |
---|
Nid yw'r hyn sy'n achosi'r rhan fwyaf o diwmorau'r ymennydd yn hysbys. Ymhlith y ffactorau risg anghyffredin y mae niwroffibromatosis etifeddol, amlygiad i glorid finyl, firws Epstein-Barr, ac ymbelydredd ïoneiddio. Nid cheir tystiolaeth glir ynghylch effaith ffonau symudol. Y mathau mwyaf cyffredin o diwmorau cynradd ymysg oedolion yw meningioma (sydd fel arfer yn ddiniwed), ac astrosytomâu fel glioblastomau. Y math mwyaf cyffredin ymysg plant yw medulloblastoma niweidiol. Gwneir diagnosis fel arfer drwy archwiliadau meddygol ynghyd â tomograffeg gyfrifiadurol neu ddelweddu oniaredd magnetig. Caiff diagnosis ei gadarnhau drwy fiopsi. Yn seiliedig ar y canfyddiadau, rhannir y tiwmorau yn ôl gradd difrifoldeb.
Gall triniaethau gynnwys cyfuniad o lawdriniaethau, therapïau ymbelydredd, a chemotherapi. Rhoddir meddyginiaeth gwrthgyffylsiwn weithiau mewn achosion lle mae dioddefwr yn profi trawiadau. Gellir defnyddio Decsamethason a ffwrosemid i leihau'r chwyddo o amgylch tiwmor. Mae rhai tiwmorau'n tyfu'n raddol, ac yn aml mewn achosion felly, rhaid monitro'r tiwmor heb ymyrraeth. Mae triniaethau'n defnyddio system imiwnedd unigolyn yn cael eu hastudio ar hyn o bryd. Gall canlyniadau triniaethau amrywio'n sylweddol ac maent yn ddibynnol ar y math o diwmor a drinnir, ynghyd â natur ei lledaeniad wedi diagnosis. Fel arfer nid yw'r cyflwr Glioblastomas yn arwain at ganlyniadau boddhaol, ar y llaw arall gellir trin meningioma yn llwyddiannus ar y cyfan. Mae oddeutu 33% o ddioddefwyr yn yr Unol Daleithiau yn goroesi dros bum mlynedd wedi diagnosis tiwmor yr ymennydd.
Mae tiwmorau uwchradd neu fetastatig yr ymennydd yn fwy cyffredin na thiwmorau cynradd yr ymennydd, ac y mae oddeutu hanner o achosion metastasis yn deillio o ganser yr ysgyfaint. Mae tiwmorau cynradd yr ymennydd yn effeithio oddeutu 250,000 o bobl yn flynyddol ar lefel rhyngwladol (2% o ganserau yn gyffredinol). Tiwmor yr ymennydd yw'r ail ganser mwyaf cyffredin ymysg plant iau na 15, lewcemia lymffoblastig acíwt yw'r math mwyaf cyffredin.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tiwmor yr ymennydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.