Cangen o ffiseg ydyw Thermodynameg (Groeg:δυναμις, dynamis, sy'n golygu pŵer) sy'n ymwneud â gwres a thymheredd a'u perthynas i ynni a gwaith.
Mae'n diffinio newidiadau macrosgopig megis egni mewnol, entropi a gwasgedd, sy'n disgrifio corff o fater neu ymbelydredd. Mae thermodynameg yn nodi fod y newidiadau hyn yn cael eu rheoli gan gyfyngiadau cyffredinol, a bod y cyfyngiadau hyn yn wir am bob mater. Mynegir y cyfyngiadau hyn gan bedair rheol euraidd thermodynameg. Does a wnelo thyrmodynameg ddim iot ag ymddygiad microsgopig mân bethau megis moleciwlau, ond yn hytrach mae'n canolbwyntio ar ymddygiad y corff cyfan. Mae'n astudiaeth o'r trawsnewidiad o egni gwres i ffurfiau gwahanol o egni (yn enwedig ffurfiau mecanyddol, cemegol, ac ynni trydanol).
Mae canlyniadau sylfaenol thermodynameg yn ddibynnol ar fodolaeth elfennau delfrydol o ecwilibriwm thermodynamig. Caiff y deddfau eu diffinio a'u harddangos drwy fecaneg ystadegol, yn nhermau cyfansoddion (neu'r rhannau bach) microsgopig.
Gellir cymhwyso thermodynameg i sawl pwnc gwyddonol a pheirianyddol, yn enwedig: cemeg, cemeg perianyddol, a pheirianneg mecanyddol.
Yn hanesyddol, roedd astudiaethau thermodynameg yn ceisio cynyddu effeithlonrwydd y tren stêm cynnar.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Thermodynameg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.