Mae'r system resbiradu mewn organebau yn caniatáu cyfnewid nwyon o fewn y corff a thu allan i'r corff.
Mae'n cynnwys yr organau a ddefnyddir i anadlu, y ffaryncs (neu'r argeg), y tracea (neu'r bibell wynt), y bronci, yr ysgyfaint a'r llengig (neu'r diaffram thorasig). Pwrpas y system hon yw sicrhau fod y corff yn derbyn moleciwlau o ocsigen ac yn rhyddhau carbon deuocsid yn ôl i'r atmosffer. Mewn meddygaeth, mae'r astudiaeth o'r system resbiradu o fewn yr adran a elwir yn anatomeg, sydd yn ei dro'n rhan o fywydeg.
Defnyddir system cymhleth iawn i anadlu, i siarad - ac i chwythu swigod sebon! | |
Enghraifft o'r canlynol | math o system anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | system o organnau, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | system gylchredol |
Yn cynnwys | ceudod y trwyn, ffaryncs, laryncs, tracea, broncws, ysgyfaint, respiratory tract |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae gan anifeiliaid eraill megis pryfed, adar a mamaliaid sytemau resbiradu: defnyddia amffibiaid eu crwyn i gyfnewid y nwyon ocsigen a charbon deuocsid a thagell sydd gan bysgod. Dim ond drwy'r trwyn y gall ceffyl anadlu; bwyta yn unig yw pwrpas ei geg. Mae amffibiaid yn defnyddio ysgyfaint a'u crwyn i anadlu. Does gan ymlusgiaid ddim llengig, felly mae eu system resbiradu'n tipyn symlach na mamaliaid. Sbiraglau (neu dyllau bychan) sydd gan bryfed, a'r rheiny wedi'u lleoli ar eu sgerbwd allanol - mae hyn yn debyg i system y pysgod o ddefnyddio tegyll i anadlu. Mae ambell bryfyn, fel y Collembola yn defnyddio system o anadlu drwy'r croen yn unig ac nid oes ganddo sbiraglau na thracea.
Mae gan blanhigion hwythau systemau resbiradu er fod y cyfnewid nwyon yn gwbwl groes i gyfeiriad y nwyon mewn anifeiliaid: carbon deocsid i mewn ac ocsigen allan; mae'n cynnwys nodweddion anatomegol unigryw megis y tyllau a geir ar wyneb isaf deilen, sef y stomata.
Yn ystod beichiogrwydd, mae'r system resbiradu'r ffetws ynghwsg. Ar yr enedigaeth, fodd bynnag, daw'n weithredol - y sbardyn yw aer. Mae'n datblygu rhyw ychydig yn ystod oes y person, gan dyfu o ran maint wrth i'r corff dyfu. Mae genedigaethau cynamserol, fodd bynnag, yn aml yn golygu nad yw'r system resbiradu wedi datblygu'n llawn: nid yw celloedd math II yr alfeolws pwlmonaidd wedi datblygu'n llwyr ac yn methu a chynhyrchu gwlychwr (surfactant) ac oherwydd hynny gall llawer o'r alfeoli fethu cyfnewid nwyon yn rhai rhanau o'r ysgyfaint. Ceisir datrud hyn drwy ohirio'r enedigaeth cymaint â phosib a thrwy rhoi brechiadau o steroids i'r fam.
1.mae'n darparu ocsigen i'r gwaed.
2.tynnu carbon deuocsid or gwaed..
Pan rydych yn anadlu i mewn, mae'r cyhyrau rhyngasennol yn cyfangu, tra fydd y gawell asennau yn symyd i fyny a thuag allan. Bydd gwasgedd y thoracs yn lleihau, tra fydd cyfaint y thoracs yn cynyddu. Yn ystod mewnanadliad, mae'r ysgyfaint yn enchywthu ac yn tynnu aer i mewn i'r ysgyfaint, ac mae'r llengig yn cyfangu.
Wrth anadlu allan, bydd cyhyrau rhyngasennol yn llaesu ar gawell asennau yn symud i lawr a thuag i mewn. Mae'n gwthio aer allan o'r ysgyfaint, ac mae'r llengig yn llaesu ac yn symyd i fyny. Yn ystod allananadliad mae gwasgedd yn y thoracs yn cynyddu, a chyfaint y thoracs yn lleihau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article System resbiradu, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.