Mae’r gair sillaf yn dod o’r gair Hen Roeg sullabḗ (συλλαβή).
Sillaf yw uned o iaith lafar sy’n cynnwys llafariad, deusain neu gytsain sillafog o leiaf. Gan amlaf crëir sillaf o gnewyllyn sydd fel arfer yn llafariad gyda chytseiniaid i gwblhau’r terfyniad/au.
Mae gan feirdd yn y Gymraeg dasg anodd pan yn ysgrifennu cerddi gan eu bod yn gorfod dilyn rheolau llym y Gynghanedd. Mae’r gair cynghanedd yn golygu “harmoni”, ac mae’n rhaid cael y drefniad gywir o sain a syllafau i bob llinell, drwy ddefnyddio acenion, cyflythreniad ac odl. Mae’r gynghanedd wedi cael ei defnyddio am ganrifoedd gan y Cymry ac mae hi’n dal i gael ei defnyddio gan feirdd cyfoes yn y canu caeth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sillaf, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.