Cerdd Dafod yw'r grefft o brydyddu neu gyfansoddi barddoniaeth Gymraeg mewn cyferbyniaeth â Cherdd Dant (celfyddyd y cerddor).
Enw arall arni yw Cerddwriaeth.
Hen ystyr y gair 'cerdd' oedd "crefft" neu "gelfyddyd", ond disodlwyd y gair yn yr ystyr honno gan y gair benthyg 'crefft' yn yr Oesoedd Canol (ceir 'cerdd' yn golygu 'crefft' yn Culhwch ac Olwen ond y gair benthyg 'crefft' a geir yn hytrach na 'cherdd' ym Mhedair Cainc y Mabinogi, sy'n ddiweddarach).
Er bod y term yn hen, Syr John Morris-Jones oedd y person cyntaf i ddosbarthu rheolau'r grefft yn ei gyfrol bwysig Cerdd Dafod, a gyhoeddwyd yn 1925.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cerdd Dafod, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.