Offeryn cerdd chwythbren yw'r sacsoffon a ddyfeisiwyd gan Adolphe Sax ym 1846.
Bwriad Sax oedd creu offeryn y byddai'n hawdd i'w chwarae mewn ystod o allweddi a thros amrediad eang - yn yr un ffordd a oedd yn bosib gydag offerynnau chwyth fel clarinet neu ffliwt - tra'n creu sŵn pwerus fyddai'n bosib ei glywed uwchben nifer o synau eraill, fel oedd yn bosib gydag offerynnau pres. Bwriadwyd yr offeryn yn wreiddiol ar gyfer bandiau milwrol neu fandiau pres, ac fe greodd Sax nifer fawr o fersiynau gwahanol mewn nifer o allweddi gwahanol gydag ystod enfawr, er mai pedwar fersiwn yn unig sy'n gyffredin heddiw:
Enghraifft o'r canlynol | math o offeryn cerdd |
---|---|
Math | offeryn cerdd chwythbren, single clarinets with conical bore, offeryn cerdd â brwynen sengl |
Gwlad | Gwlad Belg |
Dechrau/Sefydlu | 1840 |
Yn cynnwys | Saxophone tone hole |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er bod sacsaffonau o fathau gwahanol yn amrywio o ran siap a maint, maent yn creu sain yn yr un ffordd ac mae'r dechneg o ran byseddu yr un fath; mae hyn yn golygu y gall unigolion sydd wedi dysgu i chwarae sacsoffon o un fath godi un o fath arall a'i chwarae yn weddol hawdd. Mae'r sacsoffon wedi ei adeiladu o bres yn bennaf, fel trwmped neu drombôn. Fodd bynnag, nid offeryn pres go iawn yw'r sacsoffôn: o ran y dull a ddefnyddir i greu sŵn, mae'r sacsoffon yn debyg iawn i'r clarinet ac yn creu sain drwy drwy ddefnyddio corsen yn yr un ffordd. Mae'r sacsoffon felly yn perthyn i deulu yr offerynnau chwyth ac mae sŵn y sacsoffon yn ymdebygu i sŵn y clarinet, er bod y dull o'i chwarae o ran allweddau'r offeryn yn debyg iawn i'r ffliwt clasurol fodern - seiliodd Sax yr offeryn ar system Theobald Boehm ar gyfer y ffliwt.
Mae'r sacsoffon yn offeryn boblogaidd mewn jazz, bandiau milwrol a ska ymysg mathau eraill o gerddoriaeth.
Sacsoffonwyr jazz:
Sacsoffonwyr pop:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sacsoffon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.