Sianel teledu newyddion rhyngwladol sy'n darlledu yn yr iaith Saesneg o Rwsia yw Russia Today.
Sefydlwyd y sianel gan TV-Novosti, rhan o asiantaeth newyddion RIA-Novosti yn Ebrill 2005. Mae'n disgrifio ei hun fel "y sianel newyddion Saesneg 24/7 cyntaf i gyflwyno safbwynt Rwsia ar ddigwyddiadau yn Rwsia ac o gwmpas y byd".
Enghraifft o'r canlynol | rhwydwaith teledu, gorsaf deledu, foreign agent, gwefan |
---|---|
Iaith | Saesneg, Sbaeneg, Arabeg |
Dechrau/Sefydlu | 15 Medi 2005 |
Perchennog | Rossiya Segodnya, RIA Novosti |
Prif weithredwr | Alexey Nikolov |
Sylfaenydd | RIA Novosti |
Isgwmni/au | Ruptly, RT America, RT DE, RT UK, RT International |
Rhiant sefydliad | ANO TV-Novosti |
Ffurf gyfreithiol | autonomous non-commercial organization |
Pencadlys | Moscfa |
Gwladwriaeth | Rwsia |
Gwefan | https://www.rt.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae ar gael mewn sawl gwlad o gwmpas y byd, yn bennaf yn Ewrop ac Asia. Gellir ei gwylio ar Sky yng ngwledydd Prydain.
Mae tua 700 o bobl yn gweithio i'r sianel, yn cynnwys newyddiadurwyr rhyngwladol.
Er iddo fod yn sefydliad annibynnol ac yn cael ei alw weithiau yn "CNN Rwsia", mae'r sianel wedi derbyn beirniadaeth am adlewyrchu safbwynt llywodraeth Rwsia ar ddigwyddiadau'r dydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Russia Today, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.