Bardd o Gymro oedd Ronald Stuart Thomas neu R.
S. Thomas (29 Mawrth 1913 – 25 Medi 2000). Ysgrifennai ei farddoniaeth yn Saesneg ond cyhoeddodd yn ogystal ddarlithiau a chyfrolau rhyddiaith yn Gymraeg. Offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru oedd e wrth ei alwedigaeth. Dysgodd Gymraeg ac yr oedd yn genedlaetholwr digymrodedd.
R. S. Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 29 Mawrth 1913 Caerdydd |
Bu farw | 25 Medi 2000 Cricieth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr |
Arddull | telyneg |
Priod | Mildred Elsie Eldridge |
Gwobr/au | Gwobr Cholmondeley, Gwobr Aur y Frenhines am Farddoniaeth, Heinemann Award, Horst-Bienek-Preis für Lyrik |
Cafodd ei eni yng Nghaerdydd. Ei wraig oedd Mildred Eldridge, arlunydd o Saesnes.
Treuliodd R. S. Thomas gyfnod o ddeuddeg mlynedd yn rheithor plwyf gwledig Manafon, Powys (1942–1954) a ficer plwyf Eglwys Fach, Ceredigion am dair mlynedd ar ddeg (1954–1967). O Eglwys Fach aeth i weinyddu fel ficer Aberdaron yn Llŷn. Ar ei ymddeoliad o'r eglwys yn 1978, aeth i fyw i bentref y Rhiw wrth droed Mynydd Rhiw, hefyd yn Llŷn. Enillodd yr Horst-Bienek-Preis für Lyrik ym 1996.
Yn ôl Dafydd Elis-Thomas, mae'i gyfrol Uncollected Poems (2013; www.bloodaxebooks.com) yn "dangos bod RS wedi creu campweithiau'r 20g mewn sawl math o gerddi: cerddi am natur y greadigaeth a chân yr adar, canu tanbaid serch a chariad, y canu mwyaf deallus am Gymru fel cenedl..."
Ymddangosodd R. S. Thomas ar raglen radio Beti a'i Phobol ar Radio Cymru ym mis Chwefror 1996.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article R. S. Thomas, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.