Bardd, nofelydd, awdur plant a newyddiadurwr o Gymro oedd Robert John Rowlands (20 Mai 1880 – 2 Tachwedd 1967), a oedd yn adnabyddus fel awdur dan ei enw barddol Meuryn.
Roedd yn arloeswr ym myd llenyddiaeth Gymraeg i blant.
Robert John Rowlands | |
---|---|
Ffugenw | Meuryn |
Ganwyd | 20 Mai 1880 Abergwyngregyn |
Bu farw | 2 Tachwedd 1967 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr |
Plant | Eurys Ionor Rowlands |
Ganed R. J. Rowlands yn Abergwyngregin, ger Bangor, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw) ar 20 Mai 1880 yn fab i William a Mary Rowlands. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Genedlaethol Aber. Dechreuodd ar ei yrfa fel newyddiadurwr yn 1901 dan Isaac Foulkes ar staff Y Cymro (yn Lerpwl y pryd hynny) cyn dychwelyd i Gymru a chael swydd golygydd ar Yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon yn 1921. Arosodd yno am 33 o flynyddoedd hyd ei ymddeol yn 1954.
Bu farw yn 1967. Roedd yn dad i'r ysgolhaig Eurys Ionor Rowlands.
Dan yr enw Meuryn daeth i sylw Cymry llengar fel nofelydd o 1902 ymlaen. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1921 gyda'i awdl 'Min y Môr'. Cyhoeddodd nifer o lyfrau i blant hŷn a chyfres o nofelau dirgelwch poblogaidd. Fel beirniad ar ymrysonau barddol y BBC daeth yn ffigwr cyfarwydd yn y diwylliant Cymraeg; daw'r gair 'meurynnu', sef beirniadu a barnu cerddi mewn ymryson, o'i enw barddol a chyfeirir at y beirniad ei hun fel 'y meuryn' yn ogystal.
Fe'i cofir yn bennaf am ei lyfrau plant a'i nofelau dirgelwch. Gwelir tair thema amlwg yn ei waith, sef antur, natur a dirgelwch. Lleolir rhai o'i lyfrau gorau yng nghefn gwlad Cymru a rhydd ei nofelau dirgelwch a ditectif ddarlun o gymdeithas y Gogledd Cymru wledig ganol yr 20g. Roedd wrth ei fod ym myd natur ac yn arbennig bryniau a chymoedd y Carneddau yn Eryri. Yn ei deyrnged iddo meddai ei gyfaill a chyd-newyddiadurwr E. Morgan Humphreys,
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Robert John Rowlands (Meuryn), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.