Newyddiadurwr a nofelydd oedd Edward Morgan Humphreys (14 Mai 1882 – 11 Mehefin 1955), yn frodor o Ddyffryn Ardudwy, Meirionnydd (Gwynedd).
"Celt" oedd ei lysenw adnabyddus.
Edward Morgan Humphreys | |
---|---|
Ganwyd | 14 Mai 1882 Dyffryn Ardudwy |
Bu farw | 11 Mehefin 1955 Caernarfon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Yn 1905 ymunodd E. Morgan Humphreys â staff Y Genedl Gymreig yng Nghaernarfon a chafodd ei benodi'n olygydd y papur 4 mlynedd yn ddiweddarach. Golygodd hefyd The North Wales Observer ac Y Goleuad ac roedd yn gyfranydd cyson fel colofnydd ac adolygydd i'r Manchester Guardian a'r Liverpool Daily Post dan y ffugenw "Celt".
Ymroddodd E. Morgan Humphreys i ysgrifennu nofelau antur a ditectif cyfaddas i bobl ifanc yng Nghymru a gwnaeth gymwynas fawr trwy lenwi'r bwlch hwnnw gan fod pobl ifanc y cyfnod, fel heddiw, yn tueddu i droi at lyfrau Saesneg. Er eu bod yn storïau wedi'u anelu at blant yn eu harddegau yn bennaf maent yn hynod ddarllenadwy ac yn ddiddorol i oedolion yn ogystal.
Ysgrifennodd yn ogystal lyfr ar hanes y wasg yng Nghymru a dwy gyfrol o bortreadau o enwogion Cymru, ynghyd â chyfieithiad o Cwm Eithin, clasur Hugh Evans.
Llyfrau E. Morgan Humphreys | |
---|---|
Ceulan y Llyn Du | Dirgelwch Gallt y Ffrwd | Dirgelwch yr Anialwch | Yr Etifedd Coll | Y Llaw Gudd | Llofrudd yn y Chwarel | Rhwng Rhyfeloedd |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Edward Morgan Humphreys, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.