Pacistan Punjab

Un o daleithiau Pacistan yw'r Punjab neu Panjab (Urdu: پنجاب ; Punjabi: پنجاب).

Hon yw rhanbarth fwyaf poblog a ffyniannus y wlad o gryn dipyn ac mae'n gartref i Punjabiaid a sawl grŵp ethnig arall. Yr ardaloedd cyfagos yw Sindh (Sind) i'r de, Balochistan a Khyber Pakhtunkhwa i'r gorllewin, Azad Kashmir (y rhan o Kashmir dan reolaeth Pacistan), Jammu a Kashmir yn India, ac Islamabad i'r gogledd, a'r Punjab Indiaidd a Rajasthan i'r dwyrain, yn India. Y prif ieithoedd yw Punjabi, Urdu a Saraiki. Lahore yw'r brifddinas daleithiol. Daw'r enw Punjab o'r geiriau Perseg Pañj (پنج), sy'n golygu "pump", ac Āb (آب) sy'n golygu "dŵr" (cf. afon yn Gymraeg). Ystyr "Punjab" felly yw "(y) pum dŵr (neu 'afon')" - felly "Gwlad y Pum Afon", sy'n cyfeirio at yr afonydd Indus, Ravi, Sutlej, Chenab a'r Jhelum; mae'r pedair olaf yn llednentydd Afon Indus.

Punjab
Pacistan Punjab
Pacistan Punjab
Mathprovince of Pakistan Edit this on Wikidata
PrifddinasLahore Edit this on Wikidata
Poblogaeth101,391,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Gorffennaf 1970 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPunjab Edit this on Wikidata
SirPacistan Edit this on Wikidata
GwladBaner Pacistan Pacistan
Arwynebedd205,344 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaKhyber Pakhtunkhwa, Sindh, Balochistan, Islamabad Capital Territory, India, Punjab Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.33°N 74.21°E Edit this on Wikidata
PK-PB Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolProvincial Cabinet of Punjab Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholProvincial Assembly of Punjab Province Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Governor of Punjab, Pakistan Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Punjab Edit this on Wikidata
    Am ystyron eraill, gweler Punjab (gwahaniaethu).
Pacistan Punjab
Lleoliad Punjab ym Mhacistan

Daearyddiaeth

Dyma ail ranbarth mwyaf Pacistan o ran arwynebedd gyda 205,344 km2 (79,284 mi sgw) ac mae wedi'i lleoli i ogledd-orllewin plat daeaegol India yn Ne Asia.

Pacistan Punjab 
Mosg yr Ymerodraeth neu'r Mosg Badshahi yn Lahore a godwyd yn 1671

Y prifddinas yw Lahore, a fu'n brifddinas hanesyddol y Punjab ehangach hefyd. Dinasoedd eraill o fewn y rhanbarth yw Faisalabad, Rawalpindi, Gujranwala, Multan, Sialkot, Bahawalpur, Sargodha, Gujrat, Sheikhupura a Jhelum. Ceir chwe prif afon yn nadreddu drwy Punjab, 5 drwy rhan Pacistan o'r Pwnjab: Indus (sy'n llifo o'r Gogledd i'r De), Jhelum, Beas, Chenab, Ravi a Sutlej. Mae bron i 60% o boblogaeth Pacistan yn byw yn Punjab.

Mae mwyafrif yr ardal yn dir ffrwythlon, ar hyd dyffrynoedd yr afonydd ond ceir ychydig o ddiffeithdiroedd ar y ffin gyda Rajasthan a mynyddoedd Sulaiman gan gynnwys diffeithdiroedd Thal a Cholistan.

Ieithoedd

Prif iaith y rhanbarth yw'r iaith Punjab a ysgrifennir yn y sgript Shahmukhi, a cheir nifer o dafodiaethoedd oddi mewn iddi. Cânt eu siarad gan 60% o Punjabis (neu bobl o Bunjab) ym Mhacistan a'r mwyafrif llethol yn rhanbarth Punjab. Er hyn ni roddir iddi unrhyw gydnabyddiaeth oddi fewn i Gyfansoddiad Pacistan.

Demograffeg

Amcangyfrifir bod y bobloageth yn 2010 yn 93,963,240 sef dros hanner poblogaeth y wlad.

Popblogaeth
Cyfrifiad Y boblogaeth Trefol Gwledig

1951 20,540,762 3,568,076 16,972,686
1961 25,463,974 5,475,922 19,988,052
1972 37,607,423 9,182,695 28,424,728
1981 47,292,441 13,051,646 34,240,795
1998 73,621,290 23,019,025 50,602,265
2012 91,379,615 45,978,451 45,401,164

Crefydd

Crefydd yn Punjab
crefydd Canran
Islam
  
97.21%
Cristnogaeth
  
2.31%
Arall†
  
0.48%
Y rhaniad crefyddol
Includes Sikhs, Parsis, Hindus .

O fewn rhanbarth Punjab credir bod 97.21% yn Fwslemiaid gyda'r mwyafrif ohonynt yn Sunni Hanafi a lleiafrif Shia Ithna 'ashariyah. Yr ail grefydd fwyaf yw Cristnogaeth - 2.31% o'r boblogaeth. Ymhlith y crefyddau eraill fe geir Ahmedi, Hindus, Sikhs, Parsis a Bahá'í.

Prif ddinasoedd

Rhestr o brif ddinasoedd y Punjab
Safle Dinas Dosbarth Poblogaeth


Lahore
Pacistan Punjab 
Faisalabad

Rawalpindi

1 Lahore Dosbarth Lahore 10,500,000
2 Faisalabad Dosbarth Faisalabad 5,280,000
3 Rawalpindi Dosbarth Rawalpindi 3,391,656
4 Multan Dosbarth Multan 2,606,481
5 Gujranwala Dosbarth Gujranwala 2,569,090
6 Sargodha Dosbarth Sargodha 600,501
7 Bahawalpur Dosbarth Bahawalpur 543,929
8 Sialkot Dosbarth Sialkot 510,863
9 Sheikhupura Dosbarth Sheikhupura 426,980
10 Jhang Dosbarth Jhang 372,645
11 Gujrat Dosbarth Gujrat 530,645
12 D.G.Khan Dosbarth Dera Ghazi Khan 630,645
Ffynhonnell:World Gazetteer 2010
Rhestr o boblogaeth ddinesig pob dinas, nid cyfanswm y dosbarthiadau.

Gweler hefyd

  • Punjab, India

Cyfeiriadau

Tags:

Pacistan Punjab DaearyddiaethPacistan Punjab IeithoeddPacistan Punjab DemograffegPacistan Punjab CrefyddPacistan Punjab Prif ddinasoeddPacistan Punjab Gweler hefydPacistan Punjab CyfeiriadauPacistan PunjabAfon IndusBalochistanIndiaIslamabadJammu a KashmirKashmirKhyber PakhtunkhwaLahorePacistanPersegPunjab (India)PunjabiRajasthanUrdu

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Derbynnydd ar y topLlwyn mwyar duonDetlingThe Next Three DaysGwyddoniadurHafanTeyrnon Twrf LiantGweriniaeth IwerddonTribanOperation SplitsvilleFfisegCymeriadau chwedlonol CymreigNetflixMetadataMuscat4 AwstGleidioFylfaLlanfair PwllgwyngyllAlwyn HumphreysAsesiad effaith amgylcheddolRhyw geneuolThe Salton Sea25 MawrthDai LingualBwncath (band)Nwy naturiolFideo ar alwY Derwyddon (band)CiwcymbrSefydliad WicifryngauSorelaYr AmerigElinor JonesPhilip Seymour HoffmanCarnosaurMyrddin ap DafyddJac a WilArchdderwyddNASADinah WashingtonLion of OzDe La Tierra a La LunaAre You Listening?CaersallogRhizostoma pulmoAstatinMark StaceyGwyddoniaethSainte-ChapelleDiary of a Sex AddictAmerican Dad XxxJohn AubreyThe MatrixGemau Olympaidd y Gaeaf 2014MaoaethTraethawd21 EbrillIaithISO 4217BolifiaBruce SpringsteenPessachEtholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015Llên RwsiaThomas KinkadeThe Great Ecstasy of Robert Carmichael🡆 More